Craffu ar y Casgliad Crochenwaith: Crochenwaith a grëwyd gan Artistiaid Duon.

Golwg ar Gerameg: Cynrychioli crochenwyr du yng Nghasgliad Cerameg Prifysgol Aberystwyth

Ffurfiwyd y Casgliad Cerameg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar yr adeg yr oedd y mudiad crochenwaith stiwdio yn datblygu ym Mhrydain rhwng y ddau Ryfel Byd. Yng nghanon celfyddyd Orllewinol y cyfnod, roedd darnau cerameg Affricanaidd yn dal i gael eu gweld i raddau helaeth fel gwrthrychau ethnograffig yng nghyd-destun casgliadau amgueddfeydd.

Fodd bynnag, roedd cerfluniau a mygydau Affricanaidd yn ddylanwad pwysig ar artistiaid Moderniaeth ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Trodd y crochenwyr stiwdio – Bernard Leach (1887-1979), Reginald Wells (1877-1951), William Staite-Murray (1881-1962), Charles Vyse (1882-1971) a Nell Vyse (1892-1967) yn eu plith – at ddiwylliannau Asia am ysbrydoliaeth. Efelychasant ffurfiau plaen, lled ddiaddurn, a gwydredd tawel y crochenwaith a gynhyrchwyd yn Tsieina yn ystod breninlinau Sung a Ming, yn ogystal ag yn Japan.

Gwyrodd protégé Leach, sef Michael Cardew (1901-1983), oddi wrth ogwydd dwyreiniol crochenwaith stiwdio. Adfywiodd grochenwaith slip Prydeinig pan sefydlodd grochendy yn Winchcombe, Swydd Gaerloyw, yn 1926. Pan brofodd y crochendy drafferthion ariannol, cymerodd Cardew swydd yng Ngholeg Achimota yng Ngorllewin Affrica (yr Arfordir Aur, Ghana erbyn hyn) yn 1942 lle cafodd cerameg Affricanaidd effaith ddofn ar ei waith.

Yn 1951, roedd Cardew wedi’i benodi’n Swyddog Crochenwaith ar gyfer Adran Fasnach a Diwydiant Llywodraeth drefedigaethol Nigeria. Sefydlodd y Ganolfan Hyfforddi Crochenwaith yn Abuja (Suleja erbyn hyn), Nigeria. Roedd crochenwaith yn Nigeria yn dal i fod yn alwedigaeth i ferched ar y cyfan, a byddai’r merched yn cynhyrchu priddlestri â llaw, wedi’u tanio mewn coelcerthi. Roedd y llestri hyn yn gost-effeithiol i’w cynhyrchu ac yn addas iawn i storio dŵr ynddynt ac i’w defnyddio i goginio ar dân agored. Cydnabu Cardew y rhinweddau hyn ac roedd yn awyddus i osgoi cystadlu â nhw.

Yn Abuja, bu’n cynnig hyfforddiant creu crochenwaith â throell a thanio odynau i gynhyrchu cerameg wydrog er mwyn i ddynion ifanc ddatblygu busnesau crochenwaith annibynnol. Un o’r rhain oedd George Sempagala a astudiodd ac a gydweithiodd â Michael Cardew yn Abuja yn 1960. Daeth yn grefftwr crochenwaith medrus ac aeth yn ei flaen i sefydlu prosiect crochenwaith ym Maugabo yn Uganda. Daeth crochenwaith stiwdio â dylanwad Affricanaidd Cardew hyd i farchnad yn Ewrop ac ymhlith y dosbarth canol trefol a oedd ar gynnydd yn Nigeria. Parhaodd cerameg Affricanaidd i ddylanwadu ar Cardew ar ôl iddo adael Nigeria a dychwelyd i’w grochendy yn Wenford Bridge yng Nghernyw ym 1965.

Aeth Cardew ati i gyflogi rhai merched. Y gyntaf o’r rhain oedd Ladi Kwali(1925-1984), sef ei ddisgybl enwocaf. Bu Ladi yn wneuthurwr sefydledig pan dderbyniodd wahoddiad gan Cardew i ymuno â’r Ganolfan Hyfforddi Crochenwaith yn Abuja ym 1954. Ar ddiwedd y 1950au ac ar gychwyn y 1960au, derbyniodd ei gwaith ganmoliaeth fawr pan aeth Orielau Berkeley yn Llundain a Paris ati i’w arddangos. Enillodd MBE ym 1963 ac aeth ar daith â Cardew drwy’r Amerig a Chanada ar ddechrau’r 1970au. Dyfarnwyd Urdd Teilyngdod Nigeria iddi yn 1980 a hi oedd y ferch gyntaf erioed i ymddangos ar bapur Naira Nigeria.

Ladi Kwali, Nigerian Potter (Pitt Rivers Museum : Accession Number: 2014.8.1)

Yn 2014, cyflwynwyd rhodd sylweddol o gerameg i Brifysgol Aberystwyth o gasgliad Ann Carr, cyfaill oes i Cardew. Roedd y rhodd yn cynnwys dros 300 o weithiau, gan Cardew yn bennaf, ond roedd hefyd yn cynnwys darnau gan Ladi Kwali a Danlami Aliyu (1952-2012), crochenydd arall o Nigeria a fu’n gweithio yn Abuja. Aeth Aliyu i weithio yn y ganolfan grochenwaith pan oedd yn 14 oed, ac fe’i hyfforddwyd gan Michael O’Brien. Ganol y 1970au teithiodd i Loegr i astudio ymhellach, yn gyntaf yng Nghrochendy Wenford Bridge gyda Michael Cardew ac yn ddiweddarach yn Ysgol Gelf Farnham. Dychwelodd i Nigeria gan sefydlu crochendy gyda’i frawd yn Maraba, ac ail weithdy ym Minna.

Magdalene Odundo, a aned yn Kenya yn 1950, yw un o’r crochenwyr mwyaf blaenllaw ym Mhrydain. Addysgwyd Odundo yn system drefedigaethol Prydain a chafodd ei dysgu i ystyried celfyddyd Affricanaidd fel celfyddyd ‘gyntefig’. Ym 1971, symudodd i Loegr ac astudiodd yng Ngholeg Celf a Dylunio Surrey ac yn y Coleg Brenhinol. Pan oedd yn fyfyrwraig israddedig, ymwelodd â Cardew yn Wenford Bridge ac anogodd Cardew hi i astudio technegau crochenwaith Affricanaidd yn Abuja. Yno, dysgodd dechnegau adeiladu â llaw yn nhraddodiad Gwari gan grochenwyr o Nigeria, gan gynnwys Kwali. Mae Odundo yn disgrifio ei phreswyliaeth ddeufis yn Abuja fel profiad ‘trawsnewidiol’.

Cyd-guradurodd arddangosfa o waith Kwali yn y Ganolfan Astudio Crefftau yn Farnham yn 2015. Dyfarnwyd OBE i Odundo yn 2008 a DBE yn 2020. Yn 2019, dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Oes iddi yn yr Ŵyl Gerameg Ryngwladol yn Aberystwyth. Ynghyd â llestr dŵr crochenwaith caled Kwali, Llestr Tal Llathredig Odundo yw’r eitem ddrutaf yng Nghasgliad Cerameg Prifysgol Aberystwyth.

Magdalene Odundo: The Journey of Things, 2019

 

————————————————————————————————————————————————————————————————————————————-

Trwy gydol y 1920au a’r 1930au, canolbwyntiodd Prifysgol Aberystwyth ar gasglu crochenwaith stiwdio Prydeinig. Daeth y casglu i ben yn sgil yr Ail Ryfel Byd ac ni ailgydiwyd yn y gwaith tan y 1970au. Ym 1971, penodwyd Moira Vincentelli i ddysgu Hanes Celf, ac ymgymerodd â swydd Curadur Cerameg. Ymddiddorai Vincentelli yn arbennig mewn cerameg a wnaed gan fenywod, gan gynnwys y rhai oedd yn gweithio mewn cymdeithasau an-orllewinol. Mae’n edrych ar rai o’u traddodiadau yn ei llyfr Women Potters: Transforming Traditions (A&C Black, 2003). Seiliwyd ei harddangosfa Sankofa, Straeon Cerameg o Affrica, sef cydweithrediad gydag Amgueddfa Manceinion, yn bennaf ar deithiau maes i Diwnisia, Moroco, Ghana a De Affrica yn 2005-6.

Cyrhaeddodd y darn cyntaf o waith gan grochenydd Du Affricanaidd – Siddig El Nigoumi (1931-1996) – y casgliad ym 1985. Fe’i prynwyd oddi wrth y Gyfres Cerameg, sef rhaglen a drefnwyd gan Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth i gynnal arddangosfeydd bach gan wneuthurwyr cyfoes oedd yn gweithio ym Mhrydain, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai oedd yn gweithio yng Nghymru. Ganed Nigoumi yn Sudan, a symudodd i Loegr yn 1967. Mae ei waith yn ymgorffori delweddau a thechnegau Prydeinig ac Affricanaidd. Roedd y Gyfres Cerameg, a fu’n rhedeg o ganol yr 1980au tan 2003, yn cynnwys dros 100 o wneuthurwyr. Nigoumi oedd yr unig wneuthurwr Du a gynrychiolwyd yn y gyfres. Bu hefyd yn arddangos yn yr Ŵyl Gerameg Ryngwladol gyntaf ym 1987.

Cynyddodd y cyfleoedd i gasglu gwaith gan grochenwyr Du yn sgil sefydlu’r Ŵyl Cerameg Ryngwladol, a gynhelir bob dwy flynedd. Sefydlwyd yr Ŵyl tua diwedd yr 1980au ac fe’i trefnir ar y cyd gan Grochenwyr Gogledd a De Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Mae’r Ŵyl yn gwahodd crochenwyr o bob cwr o’r byd i arddangos eu technegau mewn digwyddiad deuddydd a gynhelir yn Aberystwyth. Yn 1989, cafwyd arddangosiad o dechnegau adeiladu â llaw a thanio â choelcerth traddodiadol gan Assibi Iddo, a fu’n gweithio yng Nghanolfan Grochenwaith Dr Ladi Kwali yn Abuja, ac Asabe Magaji o Nigeria. Yn 2000, cafwyd dau arddangosydd o Dde Affrica. Cafwyd arddangosiad nwyddau Zwlw duon llathredig gan Jabu Nala a dangosodd Wonderboy Nxumalo (1975-2008) o Stiwdio Ardmore ei dechnegau addurno afieithus. Yn 2005, cafwyd arddangosiad o dechnegau traddodiadol adeiladu â llaw a thanio â choelcerth gan Veronique Bambigbola (g. 1950) ac Angeline Hountchonou (g. 1957) o Benin, Gorllewin Affrica.

Veronique Bambigbola and Angeline Hountchonou ICF 2005

Dim ond am gyfnod byr y dysgwyd cynhyrchu cerameg yn yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fodd bynnag, astudiodd y myfyrwyr hanes cerameg ac aethant ati i weithio â’r casgliad. Symudodd Helga Gamboa (g. 1965) a symudodd i Loegr o Angola yn y 1990au. Tra ei bod yn astudio cerameg ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, sylweddolodd gyn lleied yr oedd yn ei wybod am ei diwylliant ei hun. Yn ddiweddarach, a hithau’n fyfyrwraig uwchraddedig yn Aberystwyth, ymgymerodd ag astudiaethau maes yn rhanbarthau Kwanyama a Nhaneca-Humbe yn Angola.

Mae llestri torchog a llathredig Gamboa, gyda’u haddurniadau gwydredd tun yn cyfeirio at orffennol Angola fel trefedigaeth Bortiwgeaidd ac effaith barhaus yr etifeddiaeth honno, yn arbennig felly’r rhyfel cartref yn Angola. Maent yn adrodd ei stori bersonol a’i hunaniaeth ddiwylliannol.

Polisi a nod Amgueddfa ac Orielau’r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth yw dal ati i adeiladu casgliad o gerameg gyfoes wedi’i gwneud â llaw, ag iddo gwmpas ac arwyddocâd rhyngwladol. Mae cerameg o’r fath yn cyfoethogi ein casgliad, ond yn ogystal â hynny maent yn ehangu ein dealltwriaeth o ddiwylliannau’r byd a hanes Prydain. Mae mwy i’w wneud o hyd i gynyddu’r cyfleoedd i grochenwyr du greu ac arddangos gwaith sy’n cynrychioli’n llawnach arferion creadigol – a bywyd – ym Mhrydain heddiw.

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *