Hanes Cynnar

Ceramic Gallery View

‘Felly efallai ymhen can mlynedd pan fydd yr enghreifftiau cain hyn o grefftwaith wedi’u gosod mewn adeilad teilwng ar y Bryn, bydd y sawl fydd yn ymweld â nhw’n gwerthfawrogi’n fawr y rhoddion hael hyn heddiw. Nawr fod y sylfaen wedi’i osod yn araf ac yn ofalus, dylai cynnydd barhau mewn ffordd fydd yn gwneud caffael gwrthrychau newydd yn haws, a bydd modd defnyddio gwell doethineb a gofal wrth ddethol y darnau newydd.’

Wrth ysgrifennu yn 1926, mynegodd cyd-guraduron yr Amgueddfa Celf a Chrefft, Sidney Greenslade a Dan Jones, eu gobeithion ar gyfer ehangu’r Coleg ar safle Penglais yn y dyfodol, gan ragweld y byddai amgueddfa celf a chrefft yn elfen bwysig o’r datblygiadau newydd. Rhoddwyd cyllid ar gyfer sefydlu’r amgueddfa gan Gwendoline a Margaret Davies o Landinam, wyresau David Davies, un o ddiwydianwyr ac entrepreneuriaid blaenllaw Cymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y 1930au cododd y Coleg yr adeiladau cyntaf ar y campws, ond ni agorwyd Canolfan y Celfyddydau, sy’n gartref i’r casgliad cerameg ers dros bymtheng mlynedd, a lle caiff ei arddangos, tan ddiwedd y chwedegau. Agorwyd cam cyntaf yr Oriel Cerameg yn 1986, ac mae’n siŵr y byddai wedi bodloni’r awduron, gan fwy na gwireddu eu dyhead cychwynnol. Mae’r gymynrodd hael a gafwyd yn 1981 gan y cyn-fyfyriwr Elvet Lewis wedi hwyluso’r datblygiadau hyn ac wedi ei gwneud yn bosibl sefydlu polisi caffael llawer mwy uchelgeisiol.

Sefydlwyd Coleg Prifysgol Cymru yn 1872, ac o gyfnod cynnar dechreuodd dderbyn gwrthrychau a gweithiau celf yn rhoddion, a dyma oedd sail Amgueddfa’r Coleg, a fwriadwyd yn wreiddiol fel amgueddfa addysgu ar gyfer gwyddoniaeth a hanes yr hen fyd yn bennaf. Roedd George Ernest Powell o Nanteos yn gymwynaswr yn ystod ei oes, a phan fu farw yn l882 gadawodd ei lyfrgell bersonol a’i gasgliadau celf i’r Coleg. Rhan fawr o’r gymynrodd hwn oedd darluniadau, peintiadau ac objects d’art, ond roedd hefyd yn cynnwys cerameg, yn bennaf crochenwaith cyfoes Satsuma ac Imari o Japan a fewnforiwyd i Ewrop ar don o frwdfrydedd am bethau Japaneaidd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd enghreifftiau hefyd o ffigurau cyfandirol a darnau unigol o grochenwaith Islamaidd ac o Ewrop o gyfnod cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafwyd rhodd arall yn 1915 pan gyflwynodd y Fonesig Williams, gwraig Syr John Williams, Llywydd y Coleg, gasgliad cain o borslen Abertawe. Adeiladodd yr Amgueddfa Celf a Chrefft ar y fenter a’r datblygiad hwn yn ystod y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd.

Crochenwaith Stiwdio 1920-1940

Caiff y cyfnod rhwng y rhyfeloedd ei ystyried bob amser yn un o’r cyfnodau arloesol o ran datblygiad crochenwaith stiwdio Prydeinig er bod llawer o egwyddorion canolog y mudiad crochenwaith stiwdio’n dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn gyntaf cafwyd ffasiwn am grefftau Japaneaidd o bob math yn enwedig crochenwaith a phrintiau a gododd ar ôl agor Japan i’r Gorllewin ar ôl 1860; yn ail y Mudiad Celf a Chrefft dan arweiniad William Morris oedd yn credu bod diwydiannu wedi arwain at gwymp mewn safonau crefft yr oedd rhaid eu hadfer nid er eu mwyn eu hunain yn unig ond er mwyn iechyd cymdeithas. Felly daeth crefftwaith da’n gysylltiedig â lles moesol.

Ar draws Ewrop yn enwedig yn y cenhedloedd diwydiannol roedd crochendai gwledig yn diflannu gyda chrochenwaith rhad a fàs-gynhyrchwyd yn cael ei farchnata’n eang. Roedd galw cynyddol hefyd am grochenwaith ‘celfyddydol’ mwy unigol, i’w arddangos yn hytrach na’i ddefnyddio. Ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd crochenwaith celfyddydol yn cael ei gynhyrchu mewn ffatrïoedd fel Doulton ond hefyd mewn mentrau llai fel Crochenwaith Ruskin Howson Taylor ac yn wir y Brodyr Martin a elwir yn aml y crochenwyr stiwdio cyntaf. Roedd hyn am eu bod yn ymgymryd â’r holl broses eu hunain er mewn gwirionedd roedd gan bob un o’r brodyr dasg arbenigol. Yn y ffatrïoedd roedd taflu potiau’n cael ei ystyried yn grefft a’r artistiaid oedd y rhai oedd yn addurno. Diflannodd y rhaniad hwn wrth i grochenwaith stiwdio ddatblygu. Roedd y ffurf a’r addurno’n cael eu hystyried yn gyfanwaith gyda’r holl broses yn cael ei goruchwylio a’i rheoli gan un artist.

Yn Ffrainc y gwelir crochenwaith modern neilltuol yn datblygu erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng ngwaith artistiaid fel Ernest Chaplet ac Auguste Delaherche. Mae’r addurniadau a osodir ar y crochenwaith yn llai o lawer gydag ymagwedd arbrofol at wydredd a lliwiau llachar neu adlewyrchiadau grisialog neu loywedd yn cymryd eu lle. Yn y degawdau ar droad y ganrif roedd gwydredd arbrofol yn mynd â bryd llawer o grochenwyr a chemegwyr gyda’r ryseitiau penodol am wydredd yn cael eu cadw’n gyfrinachol ac yn wir byddai’r nodiadau oedd yn eu trafod yn cael eu llosgi neu eu dinistrio gan yr artist fel na fyddai modd i neb eu hefelychu.

Byddai llawer o’r gwydreddau hyn yn cael eu dyfeisio i efelychu prototeipiau dwyreiniol ac maen nhw’n arwydd o newid chwaeth mewn cerameg dwyreiniol. Bellach gwrthodwyd addurniadau ffigurol coeth y cyfnodau diweddaraf gan ffafrio crochenwaith Sung a Ming cynnar gyda siapiau syml prydferth yn cael eu gwydro mewn un lliw. Byddai’r gwydredd ei hun yn cynnwys craffter manwl gydag adlewyrchiadau cyferbyniol neu arlliwiau cynnil. Er ei bod yn hawdd gweld bod y rhan fwyaf o grochenwaith stiwdio’n perthyn i’r ugeinfed ganrif cafodd y gweithiau hyn ddylanwad mawr ar nifer o grochenwyr. Er enghraifft datblygodd Reginald Wells liwiau glas gwyrddlas llachar gyda fflachiadau o binc yn efelychu gwydredd chun. Roedd y ffurfiau hefyd yn ddwyreiniol eu naws a gwerthwyd ei botiau gyda standiau pren dwyreiniol wedi’u cerfio.

Roedd gan Charles a Nell Vyse ddwy ochr gwbl wahanol i’w busnes. Ar y naill ochr roedd Charles yn modelu ei gymeriadau Llundeinig oedd yn hynod o boblogaidd, gyda marchnad barod i’w swyn lliwgar yn America yn ogystal ag ym Mhrydain; ar y llall, datblygodd y ddau bowlenni a fasys crochenwaith caled yn aml mewn siapiau dwyreiniol syml gyda gwydredd tenmoku, chun neu celadon. Roedd y ddau’n gyfeillion i’r casglwr Groegaidd George Eumorfopoulos oedd yntau fel y nhw yn byw yn Chelsea a rhoddodd fynediad iddynt at ei gasgliadau ysblennydd o gerameg dwyreiniol cynnar. Rhaid nodi er bod Greenslade wedi prynu nifer o enghreifftiau gwych o’r potiau dwyreiniol eu naws does dim enghreifftiau o ffigurau Vyse yn y casgliad gan eu bod mae’n siŵr yn rhy ‘boblogaidd’ i’w chwaeth.

O’r holl grochenwyr ddaeth dan ddylanwad y dwyrain, efallai mai bywyd Bernard Leach yw’r mwyaf difyr. Byddai’r cyfeillgarwch oes a ffurfiwyd yn ail ddegawd y ganrif rhwng Bernard Leach, Shoji Hamada a Kanjiro Kawai yn datblygu i fod yr uno mwyaf dylanwadol rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin i gael effaith ar gyfeiriad cerameg ym Mhrydain a Japan. Yng ngwaith y crochenwyr hyn, yn enwedig Bernard Leach, unwyd damcaniaethau’r Mudiad Celf a Chrefft gyda syniadau ac athroniaeth ddwyreiniol. Roedd eu dylanwad yn Japan hefyd yn bwysig yn yr adfywiad crefftau a elwir yn Mingei, dan arweiniad eu cyfaill o athronydd Soetsu Yanagi. Nid gweithiau soffistigedig oedd y cerameg a’u hysbrydolodd nhw ond yn hytrach cerameg gwerin traddodiadol Japan. Yn y blynyddoedd cynnar o leiaf, roedd y ddelfryd o gynhyrchu crochenwaith domestig â llaw yn bwysig yn hytrach na darnau crochenwaith unigol i’w harddangos ar y silff ben tân.

Yn l92l aeth Hamada a Leach i St Ives a sefydlu’r crochendy a fyddai’n feithrinfa i nifer o grochenwyr ifanc yn y 1920au. Yn eu plith roedd Katharine Pleydell-Bouverie a Norah Braden a phan sefydlon nhw’r crochendy yn Coleshill y delfrydau y tu ôl i’r traddodiad dwyreiniol oedd wrth galon cynildeb tawel eu gwaith. Byddai pob rysáit gwydredd yn cael ei gofnodi’n ofalus mewn llyfrau nodiadau sy’n datgelu’r holl arbrofion gyda gwahanol fathau o ludw pren.

Daeth crochenwaith slip Prydeinig traddodiadol hefyd yn ffynhonnell bwysig o ysbrydoliaeth i’r grŵp hwn. Dechreuodd Michael Cardew wneud crochenwaith slip ar ôl symud o St Ives i sefydlu’r crochendy yn Winchcombe. Mae crochenwaith slip yn cynnig cyfle i greu cynlluniau cryf, beiddgar ac er eu bod yn draddodiadol, maen nhw hefyd yn apelio at chwaeth fodern drwy eu natur ddigymell a’u heffaith ystumiol. Yn y casgliad yn Aberystwyth ceir gwaith gan Hamada a Kawai sy’n dangos eu brwdfrydedd am y dechneg hon ac mae’n ddiddorol gweld y rhain ochr yn ochr ag enghreifftiau o grochenwaith slip cain o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg yn bennaf o Fwcle yng ngogledd Cymru a gafodd eu caffael i’r casgliad yn ystod y cyfnod hwn. Roedd grŵp Leach bob amser yn daer dros gynhyrchu crochenwaith domestig ymarferol, er iddyn nhw mewn gwirionedd gynhyrchu darnau unigol ar gyfer marchnad gelfyddydol, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd olaf.

Ond roedd crochenwyr eraill yn arbenigo mewn potiau unigol o’r dechrau. Rhoddodd William Staite Murray deitlau i bob un o’i weithiau ar ôl 1925, gan arddangos bob blwyddyn ochr yn ochr â pheintwyr modern adnabyddus fel Ben Nicolson gan osod prisiau o hyd at gan gini ar ei botiau. Drwy wneud hyn roedd yn ceisio uwchraddio statws yr artist-grochennydd fel y byddai’n cael ei ystyried o’r un gwerth ag unrhyw artist cain. Daw safbwynt o’r fath â nifer o broblemau yn ei sgil. Mae’r mater yn dal i gael sylw heddiw gyda’r amrywiaeth cynyddol o brisiau y gellir eu talu am ddarn o gerameg gan artist adnabyddus.

Ceramic Gallery View