Amgueddfa ac Orielau’r Ysgol Gelf

Mae Amgueddfa ac Orielau’r Ysgol Gelf yn Amgueddfa Achrededig. Partneriaeth yw’r Cynllun Achredu Amgueddfeydd rhwng Cyngor Celfyddydau Lloegr, Llywodraeth Cymru, Museums Galleries Scotland, a Chyngor Amgueddfeydd Gogledd Iwerddon. Trwy statws Achrededig Llawn gellir sicrhau bod amgueddfeydd yn cydymffurfio â safonau y cytunwyd arnynt ar lefel Brydeinig a safonau sydd, yn ôl Cyngor Celfyddydau Lloegr, yn ysbrydoli hyder y cyhoedd a hyder cyrff cyllido a llywodraethu”.

Caiff gweithrediadau Amgueddfa ac Orielau’r Ysgol Gelf eu rhannu rhwng dau safle. Mae’r Ysgol yn gartref i gasgliadau addysgu ac ymchwil helaeth o gelfyddyd gain ac addurnol sy’n cwmpasu cyfnod o’r 15fed ganrif hyd heddiw. Adeilad Edwardaidd gwych, sy’n adeilad rhestredig Graddfa II*, yw cartref yr Ysgol Gelf. Fe saif ar allt y Buarth yn edrych dros Fae Ceredigion, ychydig funudau’n unig ar droed o ganol tref Aberystwyth a’r orsaf drenau.  Mae’r ddwy oriel gyhoeddus yn yr Ysgol Gelf yn dangos detholiad bywiog ac amrywiol o arddangosfeydd newidiol, rhai yn deillio o’r casgliadau celfyddyd gain eu hunain, ac eraill yn arddangosfeydd gan artistiaid ar wahoddiad, gan israddedigion ac uwchraddedigion yr Adran, ac yn achlysurol, arddangosfeydd teithiol o sefydliadau eraill. Cedwir y rhan fwyaf o’r casgliad cerameg yn yr Oriel Gerameg ar lawr isaf Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth ar y prif gampws, lai na milltir o ganol y dref. Mae gan yr oriel raglen newidiol o arddangosfeydd, ond hefyd mae yno arddangosfa barhaol o ddarnau crochenwaith stiwdio cyfoes a hanesyddol.

Casgliadau

Mae’r Casgliadau’n cynnwys dros 20,000 o enghreifftiau o gelfyddyd gain ac addurnol: printiau, ffotograffau, darluniau, lluniau dyfrlliw, cerameg, paentiadau a cherfluniau, yn ogystal ag arteffactau o gyn Amgueddfa Celf a Chrefft y Brifysgol a sefydlwyd yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd. Ni fu’r Brifysgol erioed mewn sefyllfa i gynnal ei Hamgueddfa ei hun, ac nid yw hyd y dydd heddiw yn elwa o gyllid gan y Llywodraeth, tebyg i’r hyn a geir gan rhai amgueddfeydd prifysgol mwy o faint yn Lloegr. Gwnaed ei chyflawniadau’n bosibl trwy Gronfeydd Ymddiriedolaeth a haelioni ei noddwyr: George Powell, Nanteos, Gwendoline a Margaret Davies, Llandinam, Syr John Williams, Dr Elvet Lewis, Marian Evans-Quinn a chyfeillion a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol sydd wedi cyfrannu’n ariannol, rhoi rhoddion unigol neu gymynroddi gweithiau celf.

Craidd y casgliadau celfyddyd gain yw ein daliadau o brintiau, darluniau, lluniau dyfrlliw, ffotograffau a llyfrau o weisg preifat o Ewrop. Mae cymynrodd George Powell o Nanteos yn cynnwys rhai darluniau a lluniau dyfrlliw Cyn-raffaëlaidd, darnau efydd ac objets d’art eraill. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys casgliad o dros 5,000 o ddarluniadau engrafiad pren wedi’u cymryd o gylchgronau cyfnodol y 1860au a chasgliad ardderchog o brintiau yn cynrychioli’r Adfywiad Ysgythru, o Whistler tan ganol y 1930au. Mae meysydd arwyddocaol eraill o ddiddordeb yn cynnwys celf yng Nghymru ers 1945, gwneud printiau cyfoes ym Mhrydain, ffotograffiaeth o Gymru, a chasgliad eithriadol o ffotograffau 20fed ganrif o’r Eidal. Oherwydd eu gwerth ar gyfer ymchwil i genedlaethau o fyfyrwyr ac ysgolheigion y dyfodol, mae’r Ysgol Gelf wedi caffael cyrff sylweddol o waith yn cynrychioli gyrfaoedd artistiaid unigol, gan gynnwys peth deunydd archif cysylltiedig. Mae’r ‘casgliadau gan artistiaid’ yn cynnwys gwaith a deunydd cysylltiedig gan Handel Evans, John Elwyn, Derrick Greaves, Bernard Cheese, Edgar Holloway, Christine Penn, Rigby Graham, Keith Vaughan, Robin Tanner, Evelyn Gibbs, Robert Austin, John Copley, Angus McBean ac Edward Bouverie Hoyton.

Mae’r casgliad cerameg yn cynnwys crochenwaith stiwdio cyfoes o Brydain, Ewrop, America, a Siapan, darnau crochenwaith slip y 18fed a’r 19eg ganrif o Gymru a Lloegr, porslen Abertawe a Nantgarw o ddechrau’r 18fed ganrif, Crochenwaith Celf o ddechrau’r 20fed ganrif, a rhai darnau cerameg hanesyddol o’r Dwyrain Pell. Mae ein casgliad rhagorol o grochenwaith stiwdio arloesol o ddechrau’r 20fed ganrif yn un o’r gorau ym Mhrydain ac mae’n cynnwys gwaith cynnar gan Bernard Leach, Michael Cardew, Nora Braden, Katharine Pleydell-Bouverie, William Staite Murray, a Shoji Hamada. Mae’r darnau sydd gennym o gerameg cyfoes yn enwog yn rhyngwladol ac yn cynnwys enghreifftiau o arferion cyfoes amlwladol.

Heddiw, yn fwy nag erioed o’r blaen mae’n debyg, mae ein casgliadau yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i waith dysgu ac ymchwil y Brifysgol. Dim ond cyfran fach o’r holl ddarnau sy’n eiddo i ni y byddwn yn eu harddangos ar y tro; mae’r casgliadau astudio ar gael i’w gweld trwy apwyntiad. Ganol mis Mai ar ddiwedd tymor yr haf, cynhelir sioe raddio’r Ysgol Gelf i ddangos gwaith israddedigion ymhob rhan o’r adeilad. Cynhelir arddangosfeydd yr uwchraddedigion yn yr orielau yn ystod mis Mai a mis Medi bob blwyddyn.

School of art Museums and Galleries website

School of Art blog