Aberystwyth Ceramics Touring Exhibitions

Mae gan Brifysgol Aberystwyth un o’r casgliadau pwysicaf o gerameg anniwydiannol Brydeinig ym Mhrydain, ynghyd â chasgliad nodedig o gerameg ryngwladol gyfoes. Rydym yn benthyg darnau i arddangosfeydd mewn rhannau eraill o Brydain a thramor yn rheolaidd, yn ogystal â chreu arddangosfeydd i fynd ar daith. Yn 2015-16 aeth Philip Eglin Slipping the Trail ar daith i bum lleoliad yng Nghymru a Lloegr. Rydym hefyd yn creu arddangosfeydd ar daith ar gyfer lleoliadau bach, colegau neu lyfrgelloedd er mwyn i’r darnau gael eu gweld gan fyfyrwyr a’r cyhoedd nad ydynt yn byw yn agos i gasgliadau mawr.

Rydym yn darparu deunydd print a deunydd ar y we i gyd-fynd â phob un o’r arddangosfeydd hyn, gan gynnwys:

  • Casgliad o waith y gellir cyffwrdd ag ef, er mwyn i’r gynulleidfa, ym mhresenoldeb addysgwr, gael profiad mwy rhyngweithiol ag enghreifftiau o’r darnau ceramig sy’n cael eu harddangos
  • Pecyn Addysg i athrawon ac addysgwyr celf
  • Gweithgareddau Dysgu Teuluol
  • Gwybodaeth ategol, gan gynnwys posteri, testunau wal, ac yn y blaen, ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

£500 y mis yw’r ffi am logi arddangosfa, sy’n agored i’w thrafod. Mae’r gwerth yswirio yn amrywio o £3000 i £6000, yn ddibynnol ar yr arddangosfa dan sylw.
Darperir cludiant unffordd.

Ffantasïau Anifeiliaid

Ffantasïau Anifeiliaid

Cael Te

Cael Te

Cerameg Syfrdano

Cerameg Syfrdano

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Louise Chennell: loc@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 622192