Ymweld â ni

Mae’r Casgliad Cerameg i’w weld yn yr Oriel Cerameg, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Yn yr oriel gefn, mae arddangosfa dymor hir o grochenwaith stiwdio’r arloeswyr cynnar gan Bernard LeachShoji HamadaReginald WellsMartin Brothers, Nora BradenKatharine Pleydell-BouverieFrances Richards, Michael Cardew a mwy. Mae rhai eitemau hefyd i’w gweld yn yr Ysgol Gelf. Cedwir eitemau hefyd yn storfeydd y ddau leoliad. Os hoffech chi weld unrhyw eitem o’r storfa, cysylltwch â ni ddigon ymlaen llaw i drefnu ymweliad.

Gweler hefyd:

Gwybodaeth i Ysgolion a Grwpiau

Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae’r Oriel Cerameg ar lawr isaf Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Caiff arddangosfeydd yr oriel flaen eu newid bedair gwaith y flwyddyn fel arfer. Maent yn cynnwys arddangosfeydd o’n casgliadau ar themâu penodol yn ogystal ag arddangosfeydd ar fenthyg wedi eu curadu, arddangosfeydd gan artistiaid unigol, grwpiau a sefydliadau cerameg. Caiff yr eitemau eu harddangos mewn cabinetau gwydr. Ceir byrddau gwybodaeth yn ogystal ag arddangosiad clyweledol.

Oriau Agor o 21/06/2021:

Dydd Llun – Dydd Mercher: 10am – 5pm
Dydd Iau – Dydd Sadwrn: 10am – 8pm
Dydd Sul: 1pm – 5pm

Yn achlysurol bydd yr oriel ar gau tra byddwn yn newid yr arddangosfeydd neu’n gwneud gwaith cynnal a chadw, felly gwnewch yn siŵr ein bod ar agor cyn ymweld.

Gwybodaeth am yr arddangosfa bresennol >>

Mae’r Archif Cerameg i’w gweld yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Staff rhan amser sy’n gweithio yno ond gallant fod ar gael ar gyfer ymwelwyr sy’n trefnu apwyntiad. Ffoniwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda i drefnu ymweliad er mwyn sicrhau bod rhywun ar gael i’ch gweld.

Ein manylion cyswllt:
Y Casgliad a’r Archif Cerameg
Yr Ysgol Gelf
Prifysgol Aberystwyth
Buarth Mawr
Aberystwyth
Ceredigion SY23 ING

Yr Archif Cerameg: Ffôn: (+0044) 01970 622192
Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth: Ffôn (+0044) 01970 623232 (swyddfa docynnau ar gyfer manylion yr arddangosfeydd)
Yr Ysgol Gelf: Ffôn (+0044) 01970 622460 (gwybodaeth gyffredinol)

Curadur ac Archifydd Cerameg: Louise Chennell loc@aber.ac.uk
Uwch Guradur Casgliadau’r Ysgol Gelf: Neil Holland: neh@aber.ac.uk

Moira Vincentelli: Athro Emeritws Hanes Celf a Churadur Cerameg Ymgynghorol mov@aber.ac.uk

[/su_column][/su_row]