Rhaglen Ysgolion
Ar y cyd â Rhaglen Addysg Canolfan y Celfyddydau gallwn gynnal gweithdai gydag ysgolion cynradd neu uwchradd lleol. Gall y disgyblion dreulio’r dydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, mewn un sesiwn gyda sef swyddog addysg ddwyieithog yn yr Oriel Serameg, a’r sesiwn arall yn y stiwdio gyda thiwtor cerameg. Mae’r sesiynau’n para tua 2 awr yr un.
Yn gyffredinol, caiff themâu’r gweithdai eu seilio ar yr arddangosfa dros-dro gyfredol yn yr Oriel, er y gellir eu teilwra i ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol neu weithgareddau eraill yr ysgolion. Yn yr oriel, bydd y plant yn dysgu am y casgliad, yn gwneud darluniau, yn cwblhau taflenni gwaith, a gwylio ffilmiau.
Yn y stiwdio grochenwaith, mae’r plant yn cael profiad ymarferol o weithio gyda chlai a gwneud darn celf i’w gadw. Maent yn darganfod nodweddion clai fel deunydd modelu ac fel arwyneb i’w addurno, yn ogystal â dysgu am y prosesau sy’n rhan o’r broses, o roi ffurf i glai gwlyb tan y cynhyrchir darn cerameg wedi’i danio.
Mae’r ffaith bod plant yn gallu mynd i’r oriel a chynhyrchu darn celf yn yr un amgylchedd ar yr un dydd yn brofiad addysgol gwerthfawr iawn.
Ymweliadau gan Ysgolion a Grwpiau
Rydym yn croesawu ymweliadau gan ysgolion, colegau, grwpiau celf, grwpiau cymunedol, a sefydliadau eraill lle gallwn roi sgyrsiau am y casgliad a’r arddangosfeydd cyfredol yn yr Oriel Gerameg. Os hoffech i ni ymweld cysylltwch â ni i wneud trefniadau.
Rhaglen Allanol
Gallwn fynd â chasgliad trin a thrafod i ymweld â grwpiau cymunedol. Gallwn gynnig sawl math o weithgaredd y gellir ei deilwra i ofynion grwpiau arbennig. Mae’r gweithgareddau a awgrymir yn cynnwys:
- Creu ac addurno crochenwaith.
- Canfod nodweddion synhwyraidd clai, cyffwrdd, teimlo a hyd yn oed ogleuo, yn y sesiwn trin a thrafod.
- Sgyrsiau am y casgliad.
Mae gennym becyn cymorth ar-lein, sydd â phwyslais ar ddysgu trwy wneud, ar gyfer addysgwyr sy’n darparu’r Cyfnod Sylfaen i blant rhwng 3 a 7 oed. Addaswyd hyn o’n pecyn cymorth Dysgu fel Teulu a gynlluniwyd i gynorthwyo lleoliadau diwylliannol bach i gynnal gweithdai celf a chrefft i annog teuluoedd i ddysgu gyda’i gilydd. Cynlluniwyd Pecyn Cymorth y Cyfnod Sylfaen yn wreiddiol ar gyfer addysgwyr sy’n gweithio mewn amgueddfeydd ac orielau, ond gall athrawon hefyd ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Digwyddiadau Arbennig
O bryd i’w gilydd rydyn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig yn gysylltiedig â’n rhaglen arddangosfeydd. Gall y rhain gynnwys sgyrsiau gan artistiaid, sesiynau arddangos yn y crochendy, sesiynau trin a thrafod darnau celf, a mwy sy’n addas i fyfyrwyr cerameg mewn addysg ar y drydedd lefel. Cysylltwch â ni i gofrestru eich grŵp ar restr bost er mwyn cael manylion am ddigwyddiadau sydd ar ddod, neu i’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- Sesiynau gan grochenwyr yn dangos eu technegau gwaith yng nghrochendy Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
- Sgyrsiau â gweithwyr proffesiynol ym maes cerameg, e.e. ceramegwyr / crochenwyr, curaduron, ysgrifenwyr, ac yn y blaen
- Cynadleddau – yn cynnwys cyflwyniadau gan ymchwilwyr uwchraddedig, i drafod ac edrych ar arferion cyfoes mewn ymchwil ac wrth gynhyrchu cerameg
- Sesiynau yn yr oriel lle ceir trin a thrafod eitemau o’r storfa.
Prosiectau rhyngddisgyblaethol. - Gweithdai gyda grwpiau cymunedol.
Gweler y dudalen Newyddion a Digwyddiadau.
Dechreuodd y prosiect Dysgu fel Teulu yn 2008, ac fe gafodd ei gyllido’n gychwynnol trwy Grant Dysgu Ysbrydoledig gan CyMAL. Dros yr 11eg mlynedd y bu’n rhedeg, cawsom dros 3000 o bobl yn cymryd rhan! Bu Dysgu fel Teulu yn werthfawr iawn. Nid yn unig mae wedi ein cynorthwyo i ddatblygu rhaglen addysg fwy holistig, ond mae wedi creu cyswllt agosach a’r gymuned leol sy’n fuddiol i’r ddwy ochr mewn sawl ffordd. Byddwn hefyd yn ystyried mynd â’r rhaglen y tu allan i amgylchedd yr oriel ar gyfer grwpiau nad ydynt am ryw reswm yn gallu dod atom ni.
Yn seiliedig ar ein profiad, rydym wedi paratoi Pecyn Cymorth Dysgu fel Teulu ar gyfer Lleoliadau Bach, sydd ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf PDF rhyngweithiol.
I gael rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch y pecynnau cymorth isod.