Mae’r Casgliad Cerameg yn rhan o Amgueddfa’r Ysgol Gelf, yn Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol (ALlICC) Prifysgol Aberystwyth. Mae’r casgliad ymhlith y casgliadau pwysicaf ym Mhrydain o weithiau ceramig anniwydiannol Prydeinig a rhyngwladol ac mae’n cynnwys darnau arwyddocaol o waith sy’n cynrychioli hanes cynnar cynhyrchu cerameg yn stiwdios Prydain, ac mae gennym raglen barhaol o gasglu gwaith cyfoes. Mae’r casgliad yn enwedig o adnabyddus am ei grochenwaith stiwdio o’r cyfnod 1920-1940 ac am ei gasgliad o ddarnau cyfoes o’r 1970au hyd heddiw. Mae’n cynnwys enghreifftiau cain o grochenwaith gan Bernard Leach, Michael Cardew, Katharine Pleydell-Bouverie, Norah Braden, Charles a Nell Vyse, William Staite Murray a Reginald Wells. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys corff penigamp o grochenwaith slip o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac enghreifftiau o waith o lawer o gyfnodau gwahanol, o ddarnau archeolegol i borslen Cymreig o Nantgarw ac Abertawe.
Ffurfiwyd y prif gasgliad rhwng 1920 a 1936, ac ers 1974 mae gennym bolisi o gasglu gwaith, sydd wedi arwain at gorff o fwy na 2000 o ddarnau. Rydym yn casglu darnau o waith ceramig yn rheolaidd i’r casgliad drwy gael rhoddion a thrwy brynu darnau ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru, Cronfa Grantiau Prynu’r V&A, a’r Gronfa Gelf.
Yr Oriel Gerameg a’r rhaglen o Arddangosfeydd
Mae’r Oriel Gerameg yng Nghanolfan Gelfyddydau brysur Aberystwyth, lle rydym yn cynnal rhaglen gyfnewidiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys dysgu anffurfiol a ffurfiol yn yr oriel ei hunan. Dwy ystafell sydd i’r oriel: yr oriel gefn a ddefnyddir i ddangos darnau allweddol o’r casgliad parhaol a’r oriel flaen sy’n cynnig rhaglen gyfnewidiol o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn. Fel rheol mae’r arddangosfeydd hynny yn cynnwys darnau o’r casgliad ond yn aml fe fyddant hefyd yn cynnwys darnau gan artistiaid neu guraduron gwadd. Gweler Arddangosfeydd am wybodaeth am yr arddangosfeydd cyfredol >>>
Gwaith addysgol
Rydym yn cydweithio â’r staff addysg yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth i redeg rhaglen i ysgolion sy’n gysylltiedig â’r arddangosfeydd, yn ogystal â rhaglen o Weithgareddau Teuluol. Rydym hefyd yn trefnu cynadleddau a chyflwyniadau i ymchwilwyr, a gweithgareddau a digwyddiadau i grwpiau cymunedol. Gweler Dysgu ac Estyn Allan am wybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau cyfredol >>>
Arddangosfeydd ar Daith a Benthyciadau:
Rydym yn benthyg darnau i arddangosfeydd mewn rhannau eraill o Brydain a thramor yn rheolaidd, yn ogystal â chreu arddangosfeydd o eitemau yn y casgliad i fynd ar daith.
Yr Archif Gerameg
Mae’r Archif Gerameg, sydd yn yr Ysgol Gelf, yn adnodd defnyddiol i ymchwilwyr sy’n gweithio ar hanes y casgliad, gwneuthurwyr y darnau sydd yn y casgliad, a cherameg anniwydiannol o Brydain ac o dramor yn gyffredinol. Mae’n casglu dogfennau yn ogystal â recordiadau sain, fideo a’r cyfryngau digidol sy’n ymwneud ag artistiaid cerameg. Mae gennym fwy na 300 o gyfweliadau a recordiadau o ddarlithoedd sy’n cael eu digideiddio ar hyn o bryd. Mae gennym wefan helaeth ac rydym yn ymdrin â llawer o ymholiadau sy’n dod atom gan ymwelwyr, drwy’r ffôn ac ebyst. Rydym hefyd yn gallu darparu delweddau ar gyfer ymchwil bersonol neu gyhoeddiadau masnachol. Gweler yr Archif Gerameg i ddysgu mwy>>>
Prisio Cerameg:
Ni allwn brisio darnau ceramig ac argymhellwn eich bod yn cysylltu â deliwr neu d? ocsiynwyr dibynadwy megis Bonham’s, Christie’s neu Sotheby’s. Cewch fanylion delwyr a thai ocsiynwyr lleol ym Mhrydain ar wefannau Cymdeithas Delwyr Celf a Henbethau neu Gymdeithas Delwyr Henbethau Prydain.