Prif ŵyl serameg Ewrop 27-29 Mehefin 2025

Mae’r ICF yn un o brif wyliau serameg Ewrop ac yn cael ei chynnal yn Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar gampws Prifysgol Aberystwyth ar arfordir canoldir Cymru. Ers iddo ddechrau yn 1987, mae’r ŵyl tri diwrnod wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad arweiniol serameg y DU. Mae’n cynnig athrawon, myfyrwyr, artistiaid cerameg, casglwyr celf, crochenwyr, amaturiaid a rhai sydd yn hoffi crefft, y cyfle i gyfarfod ac astudio gwaith gan grochenwyr nodedig rhyngwladol ac artistiaid serameg o Gymru, y DU ac o ar draws y byd.
Mae’r Ŵyl yn denu dros 1000 o bobl sydd yn mynychu’r darlithoedd, yn gwylio’r arddangoswyr ac yn ymweld ag ein harddangosfeydd dros benwythnos hir ar ddiwedd mis Mehefin neu yn gynnar yn fis Gorffennaf. Mae ein harddangoswyr rhyngwladol yn arddangos eu sgiliau a thechnegau ar ein llwyfan sydd wedi ei addasu yn arbennig, a hefyd hefo eu gweithleoedd eu hunain – yn galluogi trafodaeth bersonol am eu gwaith. Mae’r ŵyl yn canolbwyntio ar fod yn ymarferol ac yn ysbrydoledig ar yr un amser – mae odynau yn cael eu hadeiladu, a photiau yn cael eu creu a’u tanio.
Mae’r ŵyl yn cefnogi gwneuthurwyr newydd a hefo cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr a graddedigion newydd sydd yn gweithio hefo clai trwy serameg, celf gain neu ar gyrsiau dylunio 3-D. Os ydych yn sefydliad addysgu a hoffech i ni drefnu ymweliad i siarad hefo eich myfyrwyr, cysylltwch gyda swyddfa’r ŵyl. Gwelwch Gyfleoedd Myfyrwyr am fwy o wybodaeth.
Mae’r ŵyl yn cynnig ymwelwyr cyfleoedd i gymryd rhan yn ystod yr ŵyl, gydag amrywiaeth o weithgareddau ymarferol, yn ogystal â’r cyfle i bleidleisio ar gyfer y Wobr Cyflawniad Oes a rhoi gwaith ar werth yn y sêl cwpanau. Mae’r ŵyl yn cael ei noddi gan Potclays, un o’r prif gyflenwyr serameg yn y DU, ac yn cael ei chefnogi gan gyflenwyr serameg eraill hefyd. Mae ganddo gefnogaeth ariannol gan y Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae dau grŵp crochenwyr, y Crochenwyr Gogledd Cymru a Chrochenwyr De Cymru, ynghyd a Phrifysgol Aberystwyth yn trefnu’r ŵyl.