Yr Archif Cerameg

Hanes yr Archif Cerameg

Northern Potters
Ceramic Series
Studio Pottery - Michael Casson

Cafodd yr Archif Cerameg ei datblygu tua diwedd yr 1980au, pan oedd angen cartref newydd i archif Cymdeithas y Crochenwyr Crefft, a gychwynnwyd yn gynnar yn yr 1970au gan Robert Fournier, aelod o’r gymdeithas honno. Y nod oedd casglu dogfennau a fyddai’n gofnod o darddiad, sefydliad, gweithgareddau a datblygiad Cymdeithas y Crochenwyr Crefft (a sefydlwyd yn 1958). Erbyn, 1988 roedd archif y gymdeithas wedi tyfu’n gorff sylweddol o ddeunyddiau ac roedd angen lleoliad mwy a lleoliad parhaol. Cynigiwyd yr archif i Archif Cerameg Prifysgol Aberystwyth yn Ysgol Gelf Aberystwyth, a chafodd ei derbyn. Cafodd prif ddogfennau papur yr Archif Ceramig eu rhoi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1997. Fodd bynnag, cafodd unrhyw wybodaeth oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â gwneuthurwyr y Casgliad Ceramig ei chadw yn Archif Cerameg Prifysgol Aberystwyth.

Beth sydd yn yr Archif Cerameg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Yn yr Archif Cerameg ceir gwybodaeth ynglŷn â chrochenwaith stiwdio neu grochenwaith anniwydiannol, ac mae’n cynnwys y canlynol:

  1. Ffeiliau’n cynnwys gwybodaeth wedi’i chyhoeddi ar bob un o wneuthurwyr y casgliad e.e. toriadau o bapurau newydd, erthyglau, catalogau ac adolygiadau’r arddangosfeydd.
  2. Ôl-rifynnau o gatalogau ar ddeunyddiau cyhoeddedig ar gerameg Brydeinig gan gynnwys cyfnodolion (e.e. Ceramic Review), cylchgronau, cylchlythyrau cenedlaethol a rhanbarthol.
  3. Catalogau arwerthiannau gan gynnwys Sotheby’s, Bonham’s a Christie’s.
  4. Dewis byd-eang o gyfeirlyfrau ynglŷn â cherameg.
  5. Dewis helaeth o gyfnodolion tramor ar gerameg.
  6. Catalogau arddangosfeydd cerameg, gan gynnwys y rhai a gadwir yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth.
  7. Casgliad o ddeunyddiau clyweledol cysylltiedig â cherameg a chrochenwaith stiwdio, gyda phwyslais ar grochenwyr benywaidd. Mae hyn yn cynnwys recordiadau o hanes ar lafar sy’n cael eu trosglwyddo i ffurf ddigidol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd, fel rhan o’n prosiect Datgloi ein Treftadaeth Sain gyda’r Llyfrgell Brydeinig.
  8. Ffilmiau, dogfennau a ffotograffau cysylltiedig â Gŵyl Gerameg Ryngwladol Aberystwyth.
  9. Cyfres Cerameg – bron i gant o erthyglau a gomisiynwyd gan Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth i gyd-fynd ag arddangosfeydd unigol gwneuthurwyr Prydeinig arwyddocaol rhwng 1982 a 2003, a gyhoeddwyd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ar gael yma.

Sut mae defnyddio’r Archif?

Croesawir ymchwilwyr i’r archif drwy apwyntiadau ymlaen llaw. Ni chodir tâl am wasanaeth yr archif ar gyfer ymchwil anfasnachol. Cewch hefyd anfon eich ymholiad mewn e-bost a byddwn yn hapus i ymchwilio ar eich rhan.

Ceisiadau am ddelweddau:

Gallwn baratoi delweddau o ansawdd uchel (TIFF) o eitemau yn y casgliad i ddibenion ymchwil neu fasnachol. Darperir y gwasanaeth hwn am ddim i ymchwilwyr ond codir £25 y ddelwedd ar gwsmeriaid masnachol.

Archif Cymdeithas y Crochenwyr Crefft:

Cedwir dogfennau cynnar Cymdeithas y Crochenwyr Crefft yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, sy’n agored i’r cyhoedd. I gael mwy o wybodaeth am gynnwys yr archif, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ewch i Archif Cymdeithas y Crochenwyr Crefft.

Rhoddion:
Cysylltwch â ni os ydych chi’n teimlo bod gennych chi eitemau a allai ddiddori’r archif cerameg.

Prisiadau:
Nid oes modd i ni roi prisiadau ar ddarnau ceramig ac argymhellwn eich bod yn cysylltu â gwerthwr hen bethau dibynadwy neu arwerthwyr fel Bonham’s, Christie’s neu Sotheby’s. Mae manylion am werthwyr ac arwerthwyr lleol yn y DU ar gael ar wefannau’r cymdeithasau canlynol:

Association of Art & Antiques Dealers

The British Antique Dealers’ Association.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau a cheisiadau cysylltiedig â’r Archif Cerameg, cysylltwch â: Louise Chennell: loc@aber.ac.uk ffôn: (+0044) 01970 622192