Gweithgaredd i’r Teulu

HWYL CREADIGOL I DEULUOEDD 2024

Mae’r Oriel Serameg yn trefnu sesiynau celf a chrefft i deuluoedd, yn seiliedig ar themâu ac arddangosfeydd o fewn Casgliad Serameg sylweddol Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Mae’r gweithgareddau yn para am 30-45 munud ac maent yn addas ar gyfer teuluoedd a phlant 3 oed a throsodd. O fis Tachwedd 2022, cynhelir gweithgareddau yn yr Oriel Cerameg i lawr y grisiau yng Nghanolfan y Celfyddydau unwaith y mis tan fis Mawrth. Does dim angen archebu lle dim ond galw heibio rhwng 10am a 1pm. Codir tâl gwirfoddol bychan am gostau’r deunydd (fel arfer £1 y plentyn, am ddim i oedolion).

27/01/2024 Portreadau Cameo  

24/02/2024 Llythrennau Addurnedig 

23/03/2024 Crefftau Gwanwyn  

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: 

Louise Chennell, loc@aber.ac.uk, Ffôn: 01970 622192 

Chwarae a Dysgu yn eich cartref

Dyma rai syniadau ar gyfer cael plant oed 3-7 a’u teuluoedd i ddysgu gyda’i gilydd.

Gallech hefyd gael syniadau am weithgareddau celf a chrefft cryno i’w gwneud gartref yn ein Pecyn Cymorth ar gyfer Dysgu fel Teulu. Cynlluniwyd hyn i addysgwyr mewn amgueddfeydd ac orielau ond gall rhieni a gofalwyr hefyd ei ddefnyddio. Rhowch wybod i ni sut hwyl rydych chi’n ei gael ac anfonwch ddarluniau o’ch creadigaethau atom ac fe’u rhown ni nhw ar dudalen Facebook yr Ysgol.

Gêm Mi Wela i (â’m llygad bach i…)