Lleoliad ac oriau agor

Mae’r Oriel Serameg ar lawr isaf Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Caiff arddangosfeydd yr oriel flaen eu newid bedair gwaith y flwyddyn fel arfer. Maent yn cynnwys arddangosfeydd o’n casgliadau ar themâu penodol yn ogystal ag arddangosfeydd ar fenthyg wedi eu curadu, arddangosfeydd gan artistiaid unigol, grwpiau a sefydliadau cerameg. Caiff yr eitemau eu harddangos mewn cabinetau gwydr. Ceir byrddau gwybodaeth yn ogystal ag arddangosiad clyweledol.

Oriau Agor:

Dydd Llun – Dydd Mercher: 10am – 5pm
Dydd Iau – Dydd Sadwrn: 10am – 8pm
Dydd Sul: 1pm – 5pm

Yn achlysurol bydd yr oriel ar gau tra byddwn yn newid yr arddangosfeydd neu’n gwneud gwaith cynnal a chadw, felly gwnewch yn siŵr ein bod ar agor cyn ymweld.

Oriel Serameg
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth 
Ceredigion
SY23 3DE

Gwybodaeth am yr arddangosfa bresennol >>

Mae’r Archif Cerameg i’w gweld yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Staff rhan amser sy’n gweithio yno ond gallant fod ar gael ar gyfer ymwelwyr sy’n trefnu apwyntiad. Ffoniwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda i drefnu ymweliad er mwyn sicrhau bod rhywun ar gael i’ch gweld.

Y Casgliad a’r Archif Cerameg
Yr Ysgol Gelf
Prifysgol Aberystwyth
Buarth Mawr
Aberystwyth
Ceredigion SY23 ING

Cysylltwch a ni

[/su_column] [/su_row]