Oriel Cerameg

Mae’r Oriel Cerameg ar lawr isaf Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Caiff arddangosfeydd yr oriel flaen eu newid bedair gwaith y flwyddyn fel arfer. Maent yn cynnwys arddangosfeydd o’n casgliadau ar themâu penodol yn ogystal ag arddangosfeydd ar fenthyg wedi eu curadu, arddangosfeydd gan artistiaid unigol, grwpiau a sefydliadau cerameg. Caiff yr eitemau eu harddangos mewn cabinetau gwydr. Ceir byrddau gwybodaeth yn ogystal ag arddangosiad clyweledol.

Oriau Agor:

Dydd Llun – Dydd Mercher: 10am – 5pm
Dydd Iau – Dydd Sadwrn: 10am – 8pm
Dydd Sul: 1pm – 5pm

Yn achlysurol bydd yr oriel ar gau tra byddwn yn newid yr arddangosfeydd neu’n gwneud gwaith cynnal a chadw, felly gwnewch yn siŵr ein bod ar agor cyn ymweld.

Map lleoliad

Gwybodaeth am yr arddangosfa bresennol >>

Ceramic Gallery Aberystwyth
Ceramic Gallery Aberystwyth
Ceramic Gallery Aberystwyth
Ceramic Gallery Aberystwyth