Zoe Preece: In Reverence

Mae Zoe Preece, artist o Gaerdydd, wedi creu cyfres o wrthrychau domestig arferol, wedi'u cerfio'n fanwl â llaw o borslen, neu o blastr wedi'i durnio ar durn (peiriant sy'n troelli'n gyflym iawn, ac y gellir ei ddefnyddio i gerfio plastr). Mae'r gwrthrychau bregus hyn sydd wedi'u saernïo'n wych yn ceisio cyfleu agweddau anghyffyrddadwy, annifyrrol a bregus bywyd domestig. Caiff offer… Read More

PAUL WEARING Fflwcs ac Osgo

Oriel Cerameg Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth 16/10/2021-08/01/2022   Arddangosfa yw fflwcs ac osgo o waith newydd sy’n deillio o’m prosiect Material Matters i, wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r corf o waith a arddangosir yn datgelu datblygiadau allweddol yn fy arfer i ers Gorffennaf 2019 pan oeddwn yn breswylydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, lle bûm yn fy ymdrwytho fy hun… Read More

TU HWNT I’R DROELL: Cerameg Gerfluniol o Gasgliad Cerameg Prifysgol Aberystwyth

Mehefin 21 June– Medi 26 September, 2021 Yn 2019, gwahoddwyd yr Ysgol Gelf i gymryd rhan mewn prosiect cerfluniau, a drefnwyd gan yr elusen Art UK, i ddigideiddio 170,000 o gerfluniau mewn casgliadau cyhoeddus a’u gwneud yn hygyrch ar-lein. Gofynnwyd i’r Ysgol Gelf gyflwyno rhestr o gerfluniau o’r casgliadau i’w hystyried, gan ddilyn canllawiau Art UK. Ysgogwyd tipyn o drafod… Read More

Craffu ar y Casgliad Crochenwaith: Crochenwaith a grëwyd gan Artistiaid Duon.

Golwg ar Gerameg: Cynrychioli crochenwyr du yng Nghasgliad Cerameg Prifysgol Aberystwyth Ffurfiwyd y Casgliad Cerameg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar yr adeg yr oedd y mudiad crochenwaith stiwdio yn datblygu ym Mhrydain rhwng y ddau Ryfel Byd. Yng nghanon celfyddyd Orllewinol y cyfnod, roedd darnau cerameg Affricanaidd yn dal i gael eu gweld i raddau helaeth fel gwrthrychau ethnograffig yng nghyd-destun… Read More

CERAMEG YNG NGHYFNOD Y CYFYNGU

Dyma arddangosfa ar-lein sy’n defnyddio potiau o’r Casgliad Cerameg i gyfleu rhai o brofiadau’r cyfnod o gyfyngiadau symud. Mae croeso ichi awgrymu gwaith o’r casgliad y gellid ei gynnwys yn yr arddangosfa hon, felly mynnwch gip ar y casgliad a rhowch wybod inni. Os ydych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod yn cael trafferth ymdopi ag effeithiau’r… Read More

Glue Bats and Tissue Paper

  Defnyddiwyd argraffu fel ffordd i drosglwyddo dyluniadau ar grochenwaith mewn cymdeithasau Minoaidd a Mycenaeaidd gyda sbwng naturiol yn creu siapiau ac effeithiau brith ar glai gwlyb. Defnyddid clai, pren a deunyddiau naturiol eraill hefyd i argraffu a gosod dyluniadau addurniadol ar yr arwyneb clai. Datblygodd argraffu trosluniau ar arwynebau ceramig yn unol â thechnegau diwydiannol ar gyfer argraffu ar bapur. Yn y 8fed ganrif dechreuwyd defnyddio engrafiadau ac ysgythriadau ar blatiau copr i wneud trosluniau ar gerameg. Gosodwyd olew had llin ar linellau’r plât oedd wedi’i engrafu, yna sychwyd arwyneb y plât a phwyswyd dalen glud gelatin, o’r enw ‘bat’ i mewn… Read More

Tanio | Ignite

DATGANIAD I’R WASG Tanio | Ignite (Prosiect Deori 1) 11eg Ionawr – 15fed Mawrth 2020 Yr Oriel Cerameg, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 1DE     Cychwynnwyd y Prosiect Deori er mwyn rhoi cyfle i wneuthurwyr newydd astudio darnau allweddol o Gasgliad Cerameg y Brifysgol ac i greu gwaith newydd wrth ymateb iddo. Estynnwyd gwahoddiad agored i artistiaid. Y… Read More

Road to Discovery – Ceramics from Uzbekistan

Llwybr Darganfyddiad - Serameg o Uzbekistan Oriel Serameg 22 Mehefin - 26 Awst 2019 Mae'r arddangosfa hon yn dangos enghreifftiau cyfoes o waith o'r saith ardal sy'n cynhyrchu crochenwaith yn Uzbekistan. Mae'n ystyried treftadaeth gyfoethog Uzbekistan mewn cynhyrchu serameg ochr yn ochr â thraddodiadau crochenwaith gwerin Cymreig megis crochenwaith slip Bwcle ac Ewenni sydd yng Nghasgliad Serameg Prifysgol Aberystwyth. Llwybr… Read More

Y Byd ar Flaenau ein Bysedd

15 Mehefin - 13 Gorffennaf 2019 Yr Hen Goleg, Aberystwyth Ar agor: Dydd Llun - Dydd Gwener 8am-7pm, Sadwrn 10am-4pm Arddangosfa yn cynnwys gweithiau yn y casgliad a gafwyd drwy'r Ŵyl Serameg Ryngwladol dros y 30 mlynedd diwethaf Ers 1987, bu'r Casgliad yn caffael gwaith o'r Ŵyl Gerameg Ryngwladol a gynhelir bob yn ail flwyddyn yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Dros… Read More