Richard Batterham a’i Gyfeillion

Ymroddodd Richard Batterham (1936-2021) i fyw bywyd hunangynhaliol gyda’i deulu yn Durweston, Dorset, gan dreulio ei amser yn garddio ac yn creu potiau bob dydd. Cyfeiriodd at ei ffordd o fyw fel ‘tawelwch byw’.

Roedd Batterham yn ymgymryd â phob cam o’r broses o greu ei grochenwaith ei hun, o brosesu clai amrwd i danio ei odyn ddringo dair siambr enfawr a danir gan olew. Gwnaeth botiau defnyddiol yn seiliedig ar ffurfiau llwyddiannus a ddatblygodd dros y blynyddoedd: jygiau, poteli, platiau, mygiau, powlenni a jariau storio. Gallai gynyddu neu ostwng maint y rhain yn gymesur a hen drafferth. Er iddo lunio’r un ffurfiau dro ar ôl tro, llwyddodd i greu bob darn yn unigryw gydag amrywiadau o ran maint, addurniadau a gwydredd – lludw pren, manganîs, neu wydredd halen fel arfer.

Dysgodd greu crochenwaith am y tro cyntaf yn Ysgol Bryanston, Dorset, dan arweiniad Donald Potter (1902-2004) ac ym 1957 dechreuodd ar brentisiaeth dwy flynedd yng nghrochendy Leach lle cyfarfu â’i wraig Dinah Dunn (1930-2007). Yma y cyflwynodd mab Shoji Hamada Atsuya Hamada (1929 – 1986) ef i’r olwyn gic, y bu ei momentwm tyner yn ddylanwad ar ei arddull trwy gydol ei yrfa.

Goruchwyliodd ei arddangosfa fawr ôl-syllol yn Amgueddfa Victoria & Albert yn 2021 a bu farw yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn yn 85 oed. Gofynnodd bod ei weithiau’n cael eu dosbarthu rhwng amgueddfeydd dethol ym Mhrydain fel rhoddion, ac roedd yn arbennig o awyddus i’r Casgliad Cerameg yn Aberystwyth dderbyn rhai.

Mae’r pymtheg darn yma yn cyd-fynd â’i weithiau eraill sydd eisoes yn y casgliad ac fe’u harddangosir ochr yn ochr â gweithiau gan rai o’i gyfeillion gan gynnwys Gwyn Hanssen Pigott (1935-2013), prentis arall Leach a roddodd gyngor i Richard ar gyrff clai; y crochenydd Ffrengig Thiébaut Chagué (g.1958) a’i helpodd i adeiladu odyn halen ym 1978; John Maltby (1936-2020), ei gyfaill oes a’r gwneuthurwr printiau Richard Bawden (g. 1936) mab Edward Bawden (1903-1989) a’i gyfaill o’r ysgol yn Bryanston, y cafodd ei arddangosfa gyntaf gydag ef yn 1964.

 

Richard Batterham, Master Potter:

Cynhelir dangosiad am ddim o’r ffilm lawn yn Sinema Canolfan y Celfyddydau yn y man.

Cewch fwy o fanylion ar wefan Canolfan y Celfyddydau.

Gyda chaniatâd caredig Sefydliad Joanna Bird

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *