YN EU HELFEN

YN EU HELFEN

Tri seramegydd o Gymru yn cael eu hysbrydoli gan rymoedd byd natur.

Beverley Bell Hughes

Kim Colebrook

Carine Van Gestel

 

 

14 Ionawr – 26 Mawrth 2023.

 

Pan oedd hi’n ifanc, arferai Beverley Bell Hughes fwynhau gwneud potiau pinsio clai, ond ni chafodd hyn ei annog yn ystod ei hyfforddiant yn Harrow yn y 1960au: roedd disgwyl iddi wneud nwyddau ymarferol yn nhraddodiad Bernard Leach a’i ddilynwyr. Daeth yn ôl maes o law at botiau wedi’u llunio â llaw a datblygodd ei thechnegau ei hun o wasgu a thorchi clai i wneud llestri cerfluniol. Mae’r rhain wedi’u hysbrydoli gan y ffurfiau naturiol a’r marciau llanw y mae’n eu gweld wrth fynd am dro yn Neganwy a thraeth y Morfa, ger aber afon Conwy. Mae’n Gymrawd Cymdeithas Crochenyddion Crefft ac enillodd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2019.

 

Mae Carine Van Gestel hefyd yn ffafrio’r dechneg potiau pinsio i greu powlenni lled-sfferig y mae hi wedyn yn eu tanio â choed. Yn enedigol o Wlad Belg, mae hi bellach yn byw ac yn gweithio ym Machynlleth, yn aml yn cloddio clai lleol ger traeth y Borth a Bae Clarach ar gyfer ei gwaith. Mae ganddi ddiddordeb mewn marciau daearegol sy’n cofnodi amser yn haenau a ffurfiannau creigiau lleol. Yn ddiweddar mae hi wedi datblygu gwaith slabiau sy’n ymateb i’r marciau y mae ein hynafiaid cyn-hanesyddol wedi’u gadael ar y dirwedd, gan ymgorffori cerfiadau creigiau cafn-nod a chylch, llinellau, dotiau a chylchoedd yn ei gwaith. Astudiodd serameg yng Ngholeg Brenhinol Fforest y Ddena ddiwedd y 1990au a chafodd ei mentora gan Jeremy Steward yn Fferm Wobage, Rhosan-ar-Wy ar wydro a thanio â choed.

 

Gadawodd Kim Colebrook ei gyrfa mewn twristiaeth i astudio serameg, gan dderbyn MA o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2018. Mae ei gwaith yn seiliedig ar lo (yr ‘Aur Du’) fel nwyddau a’i arwyddocâd yn hanes economaidd a chymdeithasol y De. Mae hi’n cymharu hyn â gwerth porslen (yr ‘Aur Gwyn’) yn y 1660au pan gafodd ei allforio i Ewrop o Tsieina. Mae hi’n gweithio â phorslen, gan greu haenau o ocsidau haearn drwy ddull Japaneaidd o weithio o’r enw Nerikomi – sef pentyrru a thorri darnau o glai lliw i greu patrymau. Mae hyn yn drosiad o’r ffyrdd y mae hanes ac atgofion yn cael eu claddu a’u gwyrdroi trwy amser a phellter. Enillodd Wobr Gwneuthurwr Newydd a Datblygol Potclays 2019 yng Ngŵyl Serameg Ryngwladol, Aberystwyth.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *