Paul Scott: New American Scenery

‘Cumbrian Blue(s), New American Scenery, Residual Waste (Texas) No: 4’ . In-glaze decal collage on pearlware shell edge platter c.1820, 365mm x 278mm. Paul Scott 2020.

 

 

Mae Paul Scott yn adnabyddus am ei waith heriol a gwleidyddol. Mae’n defnyddio llestri bwrdd wedi’u hargraffu â troslun, gyda dyluniadau cyfarwydd fel y patrwm helyg glas, i wneud sylwadau ar ein bywyd a’n hamseroedd ni. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys crochenwaith a ysbrydolwyd gan y ‘llestri troslun Americanaidd’ fel y’u gelwir, a wnaed yn y 19eg ganrif yn Swydd Stafford a’u haddurno â delweddau sy’n dathlu’r weriniaeth Americanaidd newydd.

Mae llawer o’r darnau sy’n cael eu harddangos wedi deillio o gyfnodau o deithio ac ymchwil yn UDA, pan oedd yn astudio enghreifftiau o lestri troslun Americanaidd ac ymweld â’r lleoliadau a ddangoswyd yn y dyluniadau. Mae’r golygfeydd cyfredol a ddarlunnir gan Paul yn adlewyrchu digwyddiadau heiddiw yn ogystal â newidiadau hanesyddol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae stampiau cefn wedi’u hargraffu ar gefn pob darn. Llofnod yw’r rhain yn rhannol, ond maent heyfd yn naratif, ac yn aml yn darparu gwybodaeth sylweddol am y pynciau a ddarlunnir.

    Mae’r darnau hyn wedi’u creu drwy ddewiniaeth dechnegol. Mae’r motiffau gweledol gwreiddiol, sef y ddelwedd ganolog a phatrwm yr ymyl, yn cael eu trin a’u newid yn ddi-dor. Mae darnau hynafol diarddurn wedi cael eu gorargraffu â golygfeydd cyfoes. Weithiau defnyddiwyd y dull Siapaneaidd o’r enw Kintsugi, gan roi cymysgedd o resin a dalen aur ar linellau asio a holltiau, gan ymfalchïo yn yr olion amser ac ôl defnydd sydd ar llestri.

 

Mae Paul Scott yn byw yn Cumbria, yng ngogledd-orllewin Lloegr. Mae’r arddangosfa hon yn nodi 20 mlynedd ers i’w waith gael ei ddangos yn yr Oriel Gerameg yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth am y tro cyntaf. Mae enghreifftiau o’i grochenwaithbellach ar gadw mewn llawer o gasgliadau pwysig ledled y byd, gan gynnwys Amgueddfa V&A Llundain, Amgueddfa Celfyddydau Addurnol Genedlaethol Norwy, Amgueddfa Gelf a Dylunio Efrog Newydd, Sefydliad Smithsonian Washington, ac Amgueddfa Gelf Sirol Los Angeles. Dyfarnwyd PhD iddo yn 2010 gan Brifysgol Fetropolitan Manceinion, lle bu’n Gymrawd Ymchwil o 2012-2014. Rhwng 2011 a 2017 bu’n Athro Cerameg yn Academi Gelf Genedlaethol Oslo. Mae ei lyfr ar gymhwyso technegau argraffu yn greadigol ar glai yn cael ei ystyried yn destun awdurdodol. Ceramics and Print Llundain: Bloomsbury; Philadelphia: Prifysgol Pennsylvania 2013 [1994]

 

Jo Dahn Mehefin 2022.

 

Mae Jo Dahn yn awdur, curadur ac ymchwilydd annibynnol. Hi yw awdur new directions in ceramics; from spectacle to trace  (Bloomsbury 2015)

Noddwyd yr ymchwil yn UDA gan Sefydliad Alturas

Noddwyd yr ymchwil yn Wedgwood, Spode ac Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Gwefan Paul Scott

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *