TU HWNT I’R DROELL: Cerameg Gerfluniol o Gasgliad Cerameg Prifysgol Aberystwyth

Mehefin 21 June– Medi 26 September, 2021

Yn 2019, gwahoddwyd yr Ysgol Gelf i gymryd rhan mewn prosiect cerfluniau, a drefnwyd gan yr elusen Art UK, i ddigideiddio 170,000 o gerfluniau mewn casgliadau cyhoeddus a’u gwneud yn hygyrch ar-lein. Gofynnwyd i’r Ysgol Gelf gyflwyno rhestr o gerfluniau o’r casgliadau i’w hystyried, gan ddilyn canllawiau Art UK.

Ysgogwyd tipyn o drafod wrth ddewis darnau. Yn gyntaf, nid oedd cerfluniau wedi’u seilio ar ffurfiau ‘swyddogaethol’ i fod i gael eu cynnwys. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i ddweud ffurfiau ‘iwtilitaraidd’ yn hytrach na ‘swyddogaethol’, sy’n air a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio crochenwaith domestig. Gellir dadlau bod gan bob darn cerameg ei swyddogaeth, ac mae’r swyddogaeth yn cynnwys bod yn addurniadol a chael ei ystyried yn ‘gelf’. Hefyd, nid oedd ‘mân ffigurynnau’ (sef ffigurau clai slip a gastiwyd mewn mowld), yn cael eu hystyried yn gerfluniau er bod ffigurau wedi’u castio mewn metel yn cael eu hystyried felly, sydd efallai yn pwysleisio’r statws is sydd i gerameg ym myd Celfyddyd Gain. Yn y diwedd, cytunwyd os oedd artist yn ystyried bod ei waith yn gerflun y gellid ei gynnwys.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys rhai darnau ffigurol a wnaed gan fenywod a hyfforddwyd mewn colegau celf yn yr 1920au. Mae’r Athro Moira Vincentelli wedi awgrymu bod clai yn fwy hygyrch na metel, gan ganiatáu iddynt ddatblygu eu technegau cerflunio. Dechreuodd artistiaid, yn cynnwys Ruth Duckworth, Elizabeth Fritsch a Gordon Baldwin, arbrofi â phosibiliadau cerfluniol y llestr o’r 1960au ymlaen. Mae Ashraf Hanna a David Binns yn parhau â’r arbrofi, a hynny’n aml gan gadw amgylchedd orielau mewn cof. Yn y cyfamser, mae artistiaid, er enghraifft Anton Pazmandi, Gillian Lowndes, Judit Varga ac Ewen Henderson yn arbrofi â phosibiliadau cerfluniol clai mewn ffordd llawer yn fwy haniaethol.

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys sampl o’r hyn yr ystyrir gennym yn gerameg gerfluniol o’r Casgliad Cerameg. Yn ddi-os, bydd y trafod yn parhau.

 

 

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *