Syniad sy’n Cyfrif: Cysyniad dros grefft mewn Serameg o Gasgliad y Brifysgol

“Pan fydd artist yn defnyddio math cysyniadol o gelfyddyd, mae’n golygu bod yr holl gynllunio a’r penderfyniadau’n cael eu gwneud ymlaen llaw ac mae’r gweithredu’n fater di-hid… Fel arfer mae’n rhydd o’r ddibyniaeth ar sgil yr artist fel crefftwr.”

Sol LeWitt, ‘Paragraphs on Conceptual Art’, Artforum Vol.5, no. 10, Haf 1967, tt. 79-83

Ers y 1960au, mae’r tensiwn rhwng cysyniad a chrefft wedi bod yn ffynhonnell gyson o ddadlau. Gellir dadlau bod y gwaith celf cysyniadol cyntaf yn wrthrych seramig, defnyddiol iawn. Fountain gan Marcel Duchamp, 1917: wrinal a wnaed mewn ffatri, a gyflwynwyd fel cerflun ‘parod’ wedi’i lofnodi gan yr artist. Mae llawer o artistiaid sy’n creu serameg gysyniadol yn cyfeirio at neu’n cyflwyno gwrthrychau bob dydd cyfarwydd gydag ystyron y tu hwnt i swyddogaeth neu ddiben. Fodd bynnag, yn wahanol i Duchamp, mae dull ymarferol o weithio gyda chlai yn rhan annatod o’r gwaith.

Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos bod gwaith Paul Scott yn nhraddodiad y serameg glas a gwyn (fel y ‘Patrwm Helygen’ enwog) a gynhyrchwyd gan ffatrïoedd megis Spode yn Stoke-on-Trent ers canol y 18fed canrif. Yn ei waith Fukushima No. 8, mae’n defnyddio’r ddelwedd gyfarwydd o brint torlun pren Hokusai The Great Wave off Kanagawa i ddangos canlyniadau trychinebus Tsunami 2011 ar y rhai oedd yn gweithio ac yn byw ger gwaith pŵer niwclear Fukushima Daiichi a ddifrodwyd yn wael.

Mae Little and Spicy gan Jesse Wine yn gynrychiolaeth wyrdroedig o fwg enfawr hyrwyddol Sports Direct. Ar yr un pryd, mae’n talu gwrogaeth i waith yr artist serameg o Galiffornia, Ken Price. Heriodd Price syniadau am serameg a chrefft stiwdio yn y 1960au a chynhyrchodd gyfres o ‘gwpanau malwod’ mewn gwydrau lliw llachar yn groes i’r serameg stiwdio brown a swyddogaethol o’r un cyfnod. Mae mygiau Wine yn fwriadol drwsgl ac yn ymwybodol ‘wrth-grefft’.

Mae Gwyn Hanssen Piggott a Vicky Shaw yn archwilio’r confensiynau a’r defodau nas lleferir ynghylch arddangos a gosod llestri bwrdd. Mae’r ddau yn cynnwys cyfarwyddiadau llym ar gyfer lleoli a threfnu eu gwaith. Mae’r defodau hyn, sy’n rhan o ystyron y gweithiau, fel arfer yn anweledig i’r sawl sy’n edrych ar y gwaith. Mae Melanie Brown a Janet de Boos yn archwilio i’r berthynas rhwng grwpiau o wrthrychau i awgrymu’r berthynas deuluol ac emosiynol rhwng pobl.

Fel sy’n aml yn wir mewn celfyddyd gysyniadol, nid yw rhai gweithiau’n sefyll ar eu pennau eu hunain heb esboniadau ysgrifenedig. Mae gweithiau gan Rita Gudino (Philippines), a Punk Raku (Ffrainc) yn gofroddion a gweddillion o berfformiadau a gynhaliwyd yn yr Ŵyl Serameg Ryngwladol yn Aberystwyth. Mae’r ffurfiau seramig anhrefnus o Punk Raku Aberystwyth yn deillio o berfformiad yng Ngŵyl 2019. Cynhaliodd y gwneuthurwyr Jean Francois Bourland a Valerie Blaize bryd parti pen-blwydd coeth, gan daflu gwydr tawdd dros lestri bwrdd raku i drac sain o gerddoriaeth roc pync. Daeth babi raku Gudino, Julio, o groth odyn gwynias (Lual) mewn perfformiad deuddydd yn yr Ŵyl yn 2015.

Mae prosesau Seramig, hanes Serameg (diwydiannol a llaw) a sut mae serameg yn cael eu defnyddio a’u harddangos, yn galluogi’r seramegyddion cyfoes hyn i archwilio eu syniadau gwleidyddol, cymdeithasol ac athronyddol drwy gyfrwng clai.

22 Ionawr 2022 – 27 Mawrth 2022

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *