150 o Flynyddoedd o Gerameg yn Aberystwyth


Rhodd, cymynrodd a chyllid y Casgliad Serameg ym Mhrifysgol Aberystwyth 1872-2022

Mae’r arddangosfa hon yn ddetholiad o’r rhoddion, y cymynroddion a’r pryniannau ar gyfer y Casgliad Cerameg sy’n dathlu pen-blwydd Prifysgol Aberystwyth yn 150 oed.

Mae’r Casgliad Cerameg o bwysigrwydd cenedlaethol ac fe saif ochr yn ochr â chasgliadau cerameg stiwdio eraill yn y V&A a’r Ganolfan Celf Gerameg yn Oriel Gelf Efrog. Mae’n rhan o gasgliadau Amgueddfeydd Achrededig Amgueddfa ac Orielau Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Ar hyn o bryd mae dros 2150 o weithiau cerameg yn y casgliad ac mae’r mwyafrif o’r rhain yn ddarnau cerameg stiwdio; darnau unigryw, wedi eu creu, eu haddurno a’u tanio gan wneuthurwyr unigol.

Rhoddion ar ddechrau’r 1870au gan y casglwr, y bardd a’r tirfeddiannwr bonedd lleol, George Powell o Nanteos, oedd y darnau cerameg cyntaf, megis y Satswma Japanaidd a arddangosir yma. Prynwyd y prif swmp o gerameg stiwdio gynnar Prydain gan y pensaer a’r ‘Curadur Ymgynghorol’ Sidney Kyffin Greenslade (1867-1955) rhwng 1921 a 1936, yn rhannol er mwyn dysgu athrawon dan hyfforddiant yn y brifysgol am sylfeini’r celfyddydau a chrefftau. Gallwch weld y rhan fwyaf o’r llestri hyn yn hanner cefn yr oriel. Aeth ei gyd-guradur, y meistr darlunio Dan Jones (1875-1934), ati i gaffael dros gant o ddarnau crochenwaith slip Bwcle o Gymru gan mwyaf ar gyfer y casgliad ‘Celfyddyd a Chrefft’, yn rhan o brosiect i feithrin diddordeb mewn diwydiannau traddodiadol ac i greu cysylltiadau hanesyddol â’r casgliadau cyfoes.

Tynnodd y brifysgol y cyllid ar gyfer y casgliad yn ôl ar ôl 1936, a llwyddodd y casgliad i oroesi’r tri degawd nesaf o ganlyniad i ymdrechion dewr staff yr adran gelf, megis yr artistiaid Ronald Lambert Gapper (1897-1984) a David Tinker (1924-2000).

Ar ddechrau’r 1970au, cafodd y casgliadau eu hadfywio a’u cofnodi, a dechreuodd Moira Vincentelli ac Alistair Crawford, aelodau o staff yr Adran Celf Weledol ar y pryd, gaffael eitemau unwaith yn rhagor. Trwy eu hegni a’u hymrwymiad, trwy waddolion gan unigolion preifat, megis Dr Elvet Lewis (1904–1981), a chefnogaeth gan sefydliadau a oedd yn datblygu, megis Cyngor Celfyddydau Cymru, y Cyngor Crefftau a Chymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru, esblygu ymhellach a wnaeth y casgliadau a llwyddwyd i sicrhau eu statws pwysig presennol ymhlith casgliadau celf graffig a cherameg y Deyrnas Gyfunol. Dros dri degawd, ymdrechodd y cyn-Guradur Cerameg, Moira Vincentelli, i ddangos arferion cerameg gyfoes gorau Cymru, Prydain a ledled y byd, ac i sefydlu rôl bwysig gwneuthurwyr benywaidd y maes cerameg stiwdio.

Hydref 8 October – Ionawr 9 January 2023

 

 

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *