Zoe Preece: In Reverence

Mae Zoe Preece, artist o Gaerdydd, wedi creu cyfres o wrthrychau domestig arferol, wedi’u cerfio’n fanwl â llaw o borslen, neu o blastr wedi’i durnio ar durn (peiriant sy’n troelli’n gyflym iawn, ac y gellir ei ddefnyddio i gerfio plastr). Mae’r gwrthrychau bregus hyn sydd wedi’u saernïo’n wych yn ceisio cyfleu agweddau anghyffyrddadwy, annifyrrol a bregus bywyd domestig. Caiff offer cegin a chelfi syml eu hystyried nid yn unig am eu ffurf a’u swyddogaeth ond hefyd am eu diben cymdeithasol a’r straeon maent yn eu corffori.   

Ynghyd â’r porslen  ceir darnau o gelfi cerfluniol o bren collen Ffrengig, sydd wedi’u mowldio i edrych fel llieiniau sychu llestri wedi’u plygu, neu lyfr agored. Fe’u gwnaed mewn cydweithrediad â’r gwneuthurwr celfi Jennifer Finnegan, a Fablab Caerdydd, gan ddefnyddio’u prosesau sganio 3D a thechnolegau melino dan reolaeth cyfrifiadur.   

Mae pob darn a gaiff ei wneud yn fanwl yn cymryd oriau i’w greu. Ar gyfer yr artist, mae gweithgarwch ailadroddus ac anweledig ei chrefft yn cyfateb i’r gwaith llafur domestig diddiwedd anweladwy a wneir yn y cartref. Y gwaith disylw hwn na chaiff ei werthfawrogi’n aml yw’r hyn y mae Preece yn ceisio’i gyfleu yn y gosodiad hwn.   

Ariannwyd yr arddangosfa hon gan Grant Cynhyrchu Cyngor Celfyddydau Cymru. 

09/04/2022 – 12/06/2022

  

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *