100 Tebot o’r Casgliad Serameg

  Y tebot yw un o'r gwrthrychau anoddaf i'w wneud mewn crochenwaith:  Rhaid i'r corff ddal digon o ddŵr i ystwytho’r te, dylai'r handlen fod yn gyfforddus i'w dal, dylai'r caead aros yn gadarn yn ei le, a rhaid i'r big arllwys yn llyfn heb ddiferu.  Mae’r tebotau a welir yng Nghasgliad Serameg Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys amrywiaeth o ffurfiau, o’r siapiau… Read More

Toni De Jesus: Cacúlo

Chwefror 14  – Mai 31 2026  Cacúlo: (ca·cgu·lu) gair sy’n golygu pentwr o bridd neu glai yn slang Madeira. Mae’r sioe deithiol hon yn adeiladu ar syniadau sy’n deillio o sioe unigol Toni De Jesus ym MUDAS - Museu de Arte Contemporânea da Madeira (Portiwgal, 2023). Mae’n canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng yr artist, y gwaith, y defnydd a lle.… Read More

Pa Newydd?  Darnau a Dderbyniwyd yn Ddiweddar Casgliad Cerameg, Yr Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth. 

Mae Casgliad Cerameg yn Aberystwyth ymhlith y prif gasgliadau o gerameg  anniwydiannol ym Mhrydain, a chanddo fwy na 2200 o ddarnau ar hyn o bryd.  Rhwng 1920-1936, drwy gyllid gan chwiorydd Davies, Gregynog, cronnodd y brifysgol gasgliad pwysig o grochenwaith stiwdio arloesol a llestri slip Cymreig. Ers canol y 1970au mae’r casgliad yn cael ei gadw a’i arddangos yng Nghanolfan… Read More

Gwaddol o Glai: Ray Finch (1914-2012) a Winchcombe Pottery

  "Mae'n cymryd blynyddoedd lawer i wneud cant o botiau sy'n edrych yr un fath, mae'n cymryd amser maith i ddysgu ailadrodd.”   Treuliodd Ray Finch (1914 -2012) y rhan fwyaf o'i fywyd yn gwneud crochenwaith ymarferol, fforddiadwy y gallai pobl ei ddefnyddio bob dydd.  Cynhyrchodd ffurfiau syml, cain, gwydrog mewn lliwiau naturiol gyda gwahaniaethau cynnil trwy brosesau gwydro a thanio… Read More

Teulu | Family 

Teulu | Family   Hydref 12 October 2024 - Ionawr 5 January 2025   Arddangosfa dan guraduriaeth teuluoedd   An exhibition curated by families  Mae'r arddangosfa hon yn adeiladu ar sylfaen prosiect ‘Teulu’ Canolfan y Celfyddydau a ddechreuodd yn 2023. Cafodd teuluoedd lleol eu gwahodd gan Ganolfan y Celfyddydau i lunio arddangosfa o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, ac Amgueddfa ac Orielau’r Ysgol… Read More

Susan Halls: Brathu’n Ôl

    Susan Halls yw un o artistiaid cerameg ffigurol mwyaf blaenllaw’r DG. Mae hi wedi bod yn creu ei cherfluniau nodedig o anifeiliaid ers deugain mlynedd, yn gyntaf o’r DG yn y 1990au cynnar ac yna o America lle’r oedd hi wedi ymsefydlu am ugain mlynedd. Cedwir ei gwaith yn Amgueddfa’r V&A, Canolfan Gelfyddyd Cerameg, Caerefrog ac Amgueddfa Gelfyddyd… Read More

SIMPLICITY AND COMPLEXITY: JIN EUI KIM

  SIMPLICITY AND COMPLEXITY  JIN EUI KIM    Gan weithio rhwng y ddau gysyniad, rhith a realiti, mae'r artist cerameg, Jin Eui Kim, yn archwilio sut gall ein canfyddiad o wrthrychau tri dimensiwn gael eu trin drwy ddefnyddio tôn a gwahanol drefniadau clai.    Ar gyfer yr arddangosfa solo hon, Simplicity and Complexity, mae Jin Eui wedi creu cyfres o… Read More

Wrth i Ddau Fyd Wrthdaro: Cerameg Stiwdio a’r Ffatri

O gyfnod y Chwyldro Diwydiannol, gweithwyr crefftus fyddai’n gwneud y cerameg a gynhyrchwyd mewn ffatrïoedd. Câi’r gwaith ei rannu'n dasgau - paratoi clai, llunio, castio slip, addurno, a thanio - a hynny’n aml mewn amodau peryglus ac am gyflog pitw. Ddechrau’r 20fed ganrif credai crochenwyr stiwdio mai'r crochenydd ei hun ddylai fod yn gyfrifol am bob cam o’r cynhyrchu, gan… Read More