Breuddwydio Ymwybodol

Breuddwydio Ymwybodol

Arddangosfa wedi’i hysbrydoli gan weithiau Christine Penn a Frances Emma Richards.

“Mae gan freuddwydion ymwybodol gyfatebiaethau â’n proses greadigol; wrth inni weithio, mae rhywle rhwng cadw a gollwng rheolaeth.”

 – Vicky Lindo a Bill Brookes

24/06/2023 – 24/09/2023

Yn 2020 gwahoddwyd Vicky Lindo (g.1980) a Bill Brookes (g.1980) gan yr Ysgol Gelf i wneud gwaith newydd a ysbrydolwyd gan gasgliadau printiau a cherameg y Brifysgol, yn rhan o brosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn y flwyddyn flaenorol roedd eu cyfres The Dead Dad Book wedi ennill y wobr AWARD yng ngŵyl Eilflwydd Gerameg Prydain ac fe’i prynwyd gan Amgueddfa’r V&A.

Hyfforddwyd Vicky ym maes dylunio tecstilau darluniadol ond fe’i hysbrydolwyd i wneud cerameg pan ddaeth ar draws crochenwaith slip Gogledd Dyfnaint yn Amgueddfa Burton yn Bideford, lle y gweithiai fel cynorthwyydd. Yn 2012 dechreuodd wneud potiau bach gyda chymorth ei phartner Bill a oedd ar y pryd yn gweithio â phren. Ymhen pedair blynedd, roedden nhw wedi sefydlu gweithdy amser-llawn yn Nyfnaint, yn creu crochenwaith slip ar raddfa fwy, gan gyfuno testun a delweddau wedi’u hysbrydoli gan chwedloniaeth, llên gwerin a byd natur. Mae Vicky yn aml yn defnyddio dull sgraffito – crafu dyluniadau trwy haenen o’r slip i ddatgelu lliw cyferbyniol oddi tano.

Ar ôl y gwahoddiad i weithio gyda chasgliadau’r Ysgol Gelf, ymwelodd Vicky a Bill ag Aberystwyth yn ystod pandemig Cofid 19 yn 2021 ac eto yn 2022. Fe’u denwyd at waith cymharol anhysbys y crochenydd stiwdio arloesol cynnar, Frances Emma Richards. (1869-1931) a’r gwneuthurwr printiau Christine Penn (1943-2014). Ysgrifennodd Vicky:

“Mae printiau breuddwydiol Penn yn llawn o naratifau swreal, rhywbeth a’n denodd ni ar unwaith, ac mae ei harddull yn dod yn syth o’i llaw. Ond mae cerameg Richards yn wahanol i hynny, braidd, dyma fyfyrdodau sy’n ein tawelu, yn cyferbynnu ag egni gwyllt Penn. Mae ei lliwiau a’i phatrymau ymataliol a bwriadus yn cael eu cymhwyso’n gynnil i botiau sydd yn finimalaidd ond eto’n gymhleth.’

Roedd Vicky a Bill yn awyddus i rannu eu dulliau o weithio ac wedi cynnwys y brasluniau, y maquettes, y mowldiau a’r paentiadau i ddatgelu’r broses greadigol. Nhw sydd wedi dewis y printiau gwreiddiol gan Christine Penn a’r gerameg gan Frances Richards sydd wedi’u cynnwys yn yr arddangosfa hon.

Breuddwydio Ymwybodol

 

 

 

 

 

 

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *