Gwaddol o Glai: Ray Finch (1914-2012) a Winchcombe Pottery

 

“Mae’n cymryd blynyddoedd lawer i wneud cant o botiau sy’n edrych yr un fath, mae’n cymryd amser maith i ddysgu ailadrodd.” 

 Treuliodd Ray Finch (1914 -2012) y rhan fwyaf o’i fywyd yn gwneud crochenwaith ymarferol, fforddiadwy y gallai pobl ei ddefnyddio bob dydd.  Cynhyrchodd ffurfiau syml, cain, gwydrog mewn lliwiau naturiol gyda gwahaniaethau cynnil trwy brosesau gwydro a thanio traddodiadol. 

Fel gŵr ifanc, gwnaeth y crochenwaith Winchcombe a welodd Finch yn nhŷ ffrind argraff arno. O’r pwynt hwnnw, ymrwymodd i ddysgu’r grefft ei hun. Yn 21 oed, aeth i weld Michael Cardew (1901-1983), pennaeth Crochendy Winchcombe, Swydd Gaerloyw, gan obeithio dod yn brentis. Ag yntau heb brofiad, fe’i gwrthodwyd yn gwrtais gan Cardew a dywedodd wrtho am gael rhywfaint o hyfforddiant ffurfiol. Treuliodd y flwyddyn ganlynol yn astudio o dan Dora Billington (1890 -1968) yn y London Central School of Art. Wedi hynny, aeth yn ôl i Winchcombe a chafodd ymuno â’r tîm. 

Yn 1939, gadawodd Cardew Winchcombe i gychwyn crochendy arall yn Wenford Bridge, Cernyw, gan adael Finch wrth y llyw. Y syniad oedd rhedeg y ddau grochendy gyda’i gilydd, fodd bynnag, rhoddodd yr Ail Ryfel Byd ddiwedd ar eu cynlluniau. Ar ôl y rhyfel, prynodd Finch Winchcombe Pottery, a gyda chymorth Sidney Tustin (1914 -2005), cynhyrchodd grochenwaith slip wedi’i grasu â choed mewn ffwrn botel. Bu’n rhaid i’r busnes addasu er mwyn bod yn gynaliadwy ac erbyn canol y 1960au, roedd wedi symud yn llwyr i gynhyrchu crochenwaith caled mewn ffwrn olew. Adeiladwyd ffwrn goed ym 1974 ac mae’r crochendy wedi bod yn crasu gyda choed byth ers hynny. 

Roedd hyfforddiant Cardew yn pwysleisio gwerth gwaith tîm a bu Winchcombe yn gartref i lawer o grochenwyr nodedig dros y blynyddoedd, gan gynnwys John Leach (1939 -), Nina Davis (1946), Robert Blatherwick (1920 -1993), a Colin Pearson (1923 -2007).  

Helpodd Ray Finch hefyd i sefydlu Cymdeithas Crochenwyr ‘Craftsmen Potters Association of Great Britain’ ym 1958. Cafodd ei gyfraniad i serameg ei wobrwyo gyda MBE yn 1980, a Gwobr Cyflawniad Oes yn 1999 yng Ngŵyl Serameg Ryngwladol, Aberystwyth. Parhaodd i wneud crochenwaith nes iddo farw yn 97 oed.  

Mae Winchcombe Pottery yn parhau heddiw fel busnes teuluol. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys gwaith ar fenthyg gan aelodau’r teulu yn ogystal â darnau o Gasgliad Serameg y Brifysgol. 

25/01/2025- 08/06/2025

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *