Teulu | Family 

Teulu | Family 

 Hydref 12 October 2024 – Ionawr 5 January 2025  

Arddangosfa dan guraduriaeth teuluoedd  

An exhibition curated by families 

Mae’r arddangosfa hon yn adeiladu ar sylfaen prosiect ‘Teulu’ Canolfan y Celfyddydau a ddechreuodd yn 2023. Cafodd teuluoedd lleol eu gwahodd gan Ganolfan y Celfyddydau i lunio arddangosfa o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, ac Amgueddfa ac Orielau’r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Parhaodd y prosiect yn yr haf, gan ganolbwyntio ar serameg. Daeth teuluoedd o’r Borth, Aberystwyth, a’r cyffiniau i chwilota drwy Gasgliad Serameg y Brifysgol, gan ystyried themâu fel glan y môr, y teulu a’r cartref. 

Dros dair wythnos yn yr haf, gwnaeth y teuluoedd hyn eu crochenwaith eu hunain yn stiwdio grochenwaith Canolfan y Celfyddydau, gan ddysgu technegau fel adeiladu â’r dwylo, addurno a gwydro. Gwnaethant hefyd ddethol darnau o’r Casgliad Serameg i’w harddangos gyda’u gwaith creadigol eu hunain. 

Mae’r arddangosfa hon yn rhoi llwyfan i ddychymyg a chreadigrwydd y rhieni, y gofalwyr a’r plant a gymerodd ran, ac mae’n dystio i’r sbort gawsom ni wrth weithio gyda’n gilydd. 

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *