Susan Halls: Brathu’n Ôl

 

 

Susan Halls yw un o artistiaid cerameg ffigurol mwyaf blaenllaw’r DG.

Mae hi wedi bod yn creu ei cherfluniau nodedig o anifeiliaid ers deugain mlynedd, yn gyntaf o’r DG yn y 1990au cynnar ac yna o America lle’r oedd hi wedi ymsefydlu am ugain mlynedd. Cedwir ei gwaith yn Amgueddfa’r V&A, Canolfan Gelfyddyd Cerameg, Caerefrog ac Amgueddfa Gelfyddyd Cerameg Cyfoes, Shigaraki, Siapan. Mae hi wedi cael sylw penodol hefyd mewn llyfrau a chyhoeddiadau niferus.

Ganed Halls ym 1966 yn Gillingham, Caint a chreodd mochyn, ei hanifail clai cyntaf pan oedd hi yn yr ysgol. Ac yntau’n llawn cymeriad ac wedi’i arsylwi’n graff, rhoes
hwn hi ar drywydd oes i ddal yr hyn mae hi’n eu disgrifio’n ‘wirionedd anifeiliaid’ ar ffurf cerameg. Wedi’i gyrru gan yr angen obsesiynol i fod yn agos i anifeiliaid, i’w perchnogi a’u meddiannu, mae Halls yn creu gan fod rhaid iddi greu. Angen nid dyhead yw hwn. Nid yw na chynrychiolaeth uniongyrchol, hanfod na naratif o ddiddordeb iddi. Yn hytrach, mae ei gweithiau celf yn ymwneud â sut mae’n teimlo i fod yn anifail – dant, ysgithr a chrafanc y gwrthrych. Boed yn dywyll, synfyfyriol, direidus neu ffraeth crëwyd anifeiliaid Halls yn graff ac yn ddynamig. Anifeiliaid sy’n brathu yw ei hanifeiliaid hi.

Mae ei gwaith presennol, cathod yn bennaf, yn tynnu ar awen ei chath Mussels yn ogystal â’r moch a’r ffowls mae’n eu gwylio yn y caeau ac ar fuarthau ffermydd o
amgylch ei stiwdio yn Poldhu, Cernyw. Er ei bod hi’n wneuthurwr dawnus nid yw Halls yn cael ei gyrru gan dechneg. Mae hi’n defnyddio’r ystod lawn o brosesau
cerameg yn ôl yr angen, gan symud yn ddiymdrech o adeiladau â llaw i daflu ar droell, paentio majolica i sgraffito, racw i danio crochenwaith caled. Mae ei ffurfiau
ansentimental o anifeiliaid yn dal bywyd, anadl a rhwysg yn llawn, ac yn ymddangos petai nhw’n barod i lamu i fywyd grwndlyd a gwawchlyd.

Brathu’n Ôl yw sioe unigol gyntaf Halls yn y DG ers dros ddeng mlynedd ar hugain.

Curadwyd gan Sharon Blakey and Alex McErlain
Ffotograffiaeth: Shannon Tofts

 

Dosbarth Meistr Serameg
Ffurfiau Anifeiliaid mewn Clai gyda Susan Halls

20/09/2024
10yb – 4yh
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Addas ar gyfer oedolion.
Pris: £75 Yn cynnwys yr holl ddeunyddiau
https://tinyurl.com/33mu8zjj

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *