HWYL GREADIGOL I’R TEULU 2023

Mae’r Oriel Serameg yn trefnu sesiynau celf a chrefft i deuluoedd, yn seiliedig ar themâu ac arddangosfeydd o fewn Casgliad Serameg sylweddol Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Cynhelir gweithgareddau yn yr Oriel Cerameg i lawr y grisiau yng Nghanolfan y Celfyddydau unwaith y mis tan fis Mawrth. Does dim angen archebu lle dim ond galw heibio rhwng 10am a 1pm. Mae’r gweithgareddau yn para am 30-45 munud ac maent yn addas ar gyfer teuluoedd a phlant 3 oed a throsodd. Codir tâl gwirfoddol bychan am gostau’r deunydd (fel arfer £1 y plentyn, am ddim i oedolion).

30/09/2023 Tebotau Ffantasïol  

28/10/2023 Powlenni Dail 

25/11/2023 Crefftau Nadolig/Gaeaf 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: 

Louise Chennell, loc@aber.ac.uk, Ffôn: 01970 622192 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *