
Ffilm
Richard Batterham | Master Potter
Dydd Mawrth 13 Mehefin, 6pm (30 munud)
Sinema Canolfan y Celfyddydau
Am ddim – tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau
Roedd Richard Batterham (1936 – 2021) yn grochenydd o fri ac yn un o frid sy’n mynd yn fwyfwy prin. Roedd yn un o gynheiliaid olaf y mudiad crochenwaith stiwdio a ffynnodd yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, ac yn gyswllt uniongyrchol ag unigolion tra dylanwadol o’r gorffennol megis Bernard Leach a Michael Cardew. Cynhyrchwyd y ffilm ddogfen hon gan Alex J. Wright a SEFYDLIAD JOANNA BIRD gyda chyfraniadau gan Syr David Attenborough a Nigel Slater.
Bydd yr arddangosfa Richard Batterham a’i Gyfeillion yn cael ei chynnal tan 18 Mehefin yn yr Oriel Gerameg yng Nghanolfan y Celfyddydau yma yn Aberystwyth.