Tanio | Ignite

DATGANIAD I’R WASG

Tanio | Ignite

(Prosiect Deori 1)

11eg Ionawr – 15fed Mawrth 2020

Yr Oriel Cerameg, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 1DE

 

 

Cychwynnwyd y Prosiect Deori er mwyn rhoi cyfle i wneuthurwyr newydd astudio darnau allweddol o Gasgliad Cerameg y Brifysgol ac i greu gwaith newydd wrth ymateb iddo. Estynnwyd gwahoddiad agored i artistiaid. Y nod oedd eu helpu i bontio’r cyfnod rhwng gadael addysg neu hyfforddiant ac i annog artistiaid i ddatblygu eu hymarfer wrth baratoi ar gyfer arddangos mewn orielau. Dewiswyd pedwar artist: Ross Andrews, Elin Hughes, Nathan Mullis a Hannah Walters, a’r pedwar ohonynt yn raddedigion Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Canolbwyntiodd Ross Andrews a Hannah Walters ar gerameg addurnedig Abertawe a Nantgarw o’r 19eg ganrif sydd yn perthyn i’r casgliad, gan ymweld hefyd â Chrochendy Nantgarw yn ystod eu gwaith ymchwil. Tynnodd Ross luniau 3-D o ddarnau yn y casgliad ac ailddehongli’r wybodaeth ddigidol i greu gwaith newydd. Byddai’r rhaglen sganio ddigidol yn aml yn ceisio rhagfynegi gwybodaeth goll – gan ychwanegu manylion fel pedair handlen yn lle dwy, neu’n rhoi addurn y tu mewn i’r fâs. Canolbwyntiodd Hannah ar fanylion a baentiwyd â llaw megis motiffau blodau a cheriwbau.

Ysbrydolwyd Elin Hughes gan waith Frances Richards (1869-1931), sef un o’r crochenyddion stiwdio arloesol cyntaf, a fyddai’n ffwrndanio potiau mewn odyn a adeiladodd ei hun yng ngardd gefn ei chartref. Cymerodd Elin ran ym Mhrosiect Anagama Rhydychen ac arbrofi â thanio pren am y tro cyntaf. Ymatebodd Nathan Mullis i’r gwaith a grëwyd gan Reginald Wells (1877-1951) y dylanwadwyd llawer ar ei botiau yn y casgliad gan waith cerameg o Tsieina; nododd y gair ‘SOON’ ar y potiau hyn er mwyn cyfeirio at grochenwaith y llinach Sung. Aeth Nathan ati i ymchwilio i dechnegau gwydredd gweadol Wells, yn ogystal â’r ffordd y byddai yn arddangos ei waith yn wreiddiol mewn arddangosfeydd.

Bydd y pedwar artist yn arddangos eu gwaith ochr yn ochr â darnau a ddewiswyd o’r casgliad, a bydd eu gwaith eu hunain ar werth yn ogystal. Gweler gwefan y Casgliad a’r Archif Cerameg neu ddyddiadur Canolfan y Celfyddydau am fanylion sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau i ddod gyda’r artistiaid.

Cefnogir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Crochendy Nantgarw a Potclays CYF.

TANIO_IGNITE LEAFLET

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *