Family Activity Programme

HWYL CREADIGOL I DEULUOEDD 2021

Mae’r Oriel Serameg yn cynnal sesiynau celf a chrefft i deuluoedd, yn seiliedig ar themâu ac arddangosfeydd yng Nghasgliad Serameg trawiadol Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Mae’r gweithgareddau hyn am ddim a chânt eu cynnal fel arfer ar ddydd Sadwrn olaf y mis, o fis Medi hyd fis Mawrth. Bydd y gweithgareddau’n para  rhwng 30 a 45 munud ac maent yn addas ar gyfer teuluoedd a phlant tair oed a hŷn. Eleni bydd rhai o’r gweithgareddau’n cael eu cynnal yn ystafell 2-D Canolfan y Celfyddydau fel y gallwn ddilyn y canllawiau diogelwch o ran COVID-19. Gallwch archebu eich lle trwy’r Swyddfa Docynnau a rhaid i un rhiant/gofalwr fod yn bresennol ar gyfer pob teulu.

Medi 25: Celf Cerflunio (10am, 11am, 12pm)

Hydref 30: Celf Tirlunio (10am, 11am, 12pm)

Tachwedd 27: Crefftau’r Nadolig (10am, 11am, 12pm)

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r:

SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32

Louise Chennell, loc@aber.ac.uk, Ffôn: 01970 622192