Chwarae a Dysgu

Gweithgareddau Arbennig

O bryd i’w gilydd rydyn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig yn gysylltiedig â’n rhaglen arddangosfeydd. Gall y rhain gynnwys sgyrsiau gan artistiaid, sesiynau arddangos yn y crochendy, sesiynau trin a thrafod darnau celf, a mwy.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • Sesiynau gan grochenwyr yn dangos eu technegau gwaith yng nghrochendy Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
  • Sgyrsiau â gweithwyr proffesiynol ym maes cerameg, e.e. ceramegyddion/crochenwyr, curaduron, ysgrifenwyr, ac yn y blaen
  • Cynadleddau – yn cynnwys cyflwyniadau gan ymchwilwyr uwchraddedig, i drafod ac edrych ar arferion cyfoes mewn ymchwil ac wrth gynhyrchu cerameg
  • Sesiynau yn yr oriel lle ceir trin a thrafod eitemau o’r storfa
  • Prosiectau rhyngddisgyblaethol
  • Gweithdai gyda grwpiau cymunedol

Gweler y dudalen Newyddion a Digwyddiadau gyfredol.

Gweithgaredd i’r Teulu

Ar ddydd Sadwrn olaf y mis, o fis Medi i fis Mawrth, rydym yn cynnal sesiynau celf a chrefft i deuluoedd, yn seiliedig ar themâu ac arddangosfeydd y Casgliad Cerameg yn yr Oriel Gerameg. Mae ein rhaglen gyfredol i’w gweld yn Gwybodaeth i Deuluoedd

Ymweliadau gan Grwpiau a Rhaglen Allanol

Rydym yn croesawu ymweliadau gan ysgolion, colegau, grwpiau celf, grwpiau cymunedol, a sefydliadau eraill lle gallwn roi sgyrsiau am y casgliad a’r arddangosfeydd cyfredol.

Hefyd, gallwn fynd â chasgliad trin a thrafod i ymweld â grwpiau cymunedol. Gallwn gynnig sawl math o weithgaredd y gellir ei deilwra i ofynion grwpiau arbennig. Mae’r gweithgareddau a awgrymir yn cynnwys:

  • Creu ac addurno crochenwaith
  • Canfod nodweddion synhwyraidd clai, cyffwrdd, teimlo a hyd yn oed ogleuo, yn y sesiwn trin a thrafod
  • Sgyrsiau am y casgliad

Gweler Gwybodaeth i Ysgolion a Cholegau

Children with Ocarina

Chwarae a Dysgu yn eich cartref

Rieni, gofalwyr ac athrawon! Mae gennym rai adnoddau ar-lein ar gyfer gweithgareddau celf a chrefft sy’n hyrwyddo dysgu i blant rhwng 3-7 oed, yn ogystal â gweithgareddau ar gyfer teuluoedd yn eu cartrefi. >>>

Gwybodaeth i athrawon fan hyn>>>

Gwybodaeth i deuluoedd fan hyn >>>

Arddangosfeydd Teithiol

Mae gennym arddangosfeydd teithiol wedi’u cynllunio ar gyfer lleoliadau bach, a gellir eu llogi trwy’r Grŵp Arddangosfeydd Teithiol neu trwy gysylltu â ni’n uniongyrchol. Gweler Arddangosfeydd Teithiol i gael mwy o wybodaeth.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

Louise Chennell: loc@aber.ac.uk
Tel: 01970 622192