
Chwefror 14 – Mai 31 2026
Cacúlo: (ca·cgu·lu) gair sy’n golygu pentwr o bridd neu glai yn slang Madeira.
Mae’r sioe deithiol hon yn adeiladu ar syniadau sy’n deillio o sioe unigol Toni De Jesus ym MUDAS – Museu de Arte Contemporânea da Madeira (Portiwgal, 2023). Mae’n canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng yr artist, y gwaith, y defnydd a lle.
Mae gan Toni De Jesus hanes o fudo ac mae hwn yn creu’r ymdeimlad o berthyn a hefyd o beidio â pherthyn. Yn gyfochrog â hyn mae ei waith yn bodoli yn y gofod rhwng traddodiad a thorri â thraddodiad, y swyddogaethol a’r answyddogaethol, crefft a chelfyddyd wedi’i seilio ar syniadau. Ffurfir hunaniaeth Toni yn y gofod rhwng y rhain. Ac yntau wedi’i ysgogi gan yr awydd i berthyn, mae Toni’n archwilio themâu yn ymwneud â lle, cof, a cholled, sef elfennau craidd ei brofiad o fudo.
Drwy archwilio sut cafodd ddefnyddiau lleol, megis tywod, creigiau, gwaddodion a chleiau eu defnyddio mewn cerameg drwy gydol hanes 600 mlynedd Madeira roedd Toni’n gallu canfod dolen ddiriaethol rhwng yr hyn sy’n diffinio o le mae’n hanu a phwy ydyw.
Mae’n ymchwilio hefyd i dreftadaeth nad yw’n gorfforol – y rhannu o straeon, chwedlau a chaneuon sydd wedi’u trosglwyddo gan deulu a chymdogion. Mae hyn yn creu cyflinell rhwng rhywbeth solet, megis gwaith cerameg wedi’i danio mewn odyn dân pren a’r darfodus, megis y si ynglŷn â sut y bu i’w fam-gu gyfarfod â’i dad-cu. Mae’r gwaith a ddatblygwyd yn archwilio’r syniadau hyn mewn cyd-destun gwahanol. Mae byw yng Nghymru dros y deg mlynedd ddiwethaf wedi trawsnewid Toni i’r person y mae heddiw.
Mae llawer o bobl yn gallu uniaethu â’r syniad o fod yn y naill le neu’r llall. Drwy’r arddangosfa hon mae Toni’n gwahodd y gwylwyr i synfyfyrio ar eu hunaniaeth eu hunain a ffordd mae’r profiadau hyn yn siapio’u dealltwriaeth o Cacúlo.

Portuguese:
Cacúlo: (ca·cgu·lu) gíria popular madeirense, que se refere a um monte de terra ou barro.
Esta exposição itinerante continua a expandir-se, partindo dos conceitos explorados na minha exposição individual no MUDAS – Museu de Arte Contemporânea da Madeira (Portugal, 2023); centrada na interação entre mim, a obra, o material e o lugar.
Com uma história de migração, há um sentimento simultâneo de pertença e não pertença, paralelo à ideia de que o meu trabalho se situa no espaço entre a tradição e a ruptura com a tradição, funcionalidade e não funcionalidade, artesanato e arte conceptual. Este espaço intermédio é onde a minha identidade se forma.
Este anseio por conexão levou-me a mergulhar em temas de lugar, memória e perda — elementos centrais da minha experiência migrante. Comecei este projeto observando a integração dos materiais locais e a sua aplicação no trabalho — em relação ao uso da cerâmica na história de 600 anos da Madeira. Esta pesquisa inicial foi uma forma de procurar evidências físicas dessa história. Materiais que, em última análise, constituem o lugar de onde venho, materiais que constituem quem eu sou. O desenvolvimento posterior foi feito com o património não físico — histórias, bilhardices e cantos partilhados pela família e pelos habitantes locais. Este paralelo entre algo sólido, como a cerâmica queimada num forno a lenha, e o perecível, como o suspiro de como a minha avó conheceu o meu avô.
O trabalho desenvolvido explora estas noções num contexto diferente. Ter vivido no País de Gales nos últimos 10 anos moldou-me na pessoa que sou hoje, sujeita à transformação.
Catalogue: Cacúlo: In Context £12, Cacúlo: Touring £12
















