Y Byd ar Flaenau ein Bysedd

15 Mehefin – 13 Gorffennaf 2019

Yr Hen Goleg, Aberystwyth

Ar agor: Dydd Llun – Dydd Gwener 8am-7pm, Sadwrn 10am-4pm

Arddangosfa yn cynnwys gweithiau yn y casgliad a gafwyd drwy’r Ŵyl Serameg Ryngwladol dros y 30 mlynedd diwethaf

Ers 1987, bu’r Casgliad yn caffael gwaith o’r Ŵyl Gerameg Ryngwladol a gynhelir bob yn ail flwyddyn yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Dros y 30 mlynedd, mae’r Ŵyl wedi dangos gwaith gan dros 200 o grochenwyr nodedig o bob rhan o Brydain a’r byd, gan gynnwys Japan, China, Dwyrain Ewrop, a Gogledd America. Mae’r gwahoddedigion hyn yn dangos eu gwaith trwy gyfrwng dangosiadau, arddangosfeydd, tanio mewn odyn, a darlithoedd dros benwythnos ganol haf. Daw crochenwyr o fannau cyn belled ag Affrica, India, Indonesia a De America i gymryd rhan, gan roi cyfle unigryw i ni weld eu dulliau traddodiadol o greu ac addurno crochenwaith.

Yn ystod pob Gŵyl, mae’r Brifysgol gan amlaf yn prynu gweithiau o arddangosfeydd y crochenwyr, yn aml gyda chymorth ariannol gan Gronfa Grant Pwrcasu’r V&A a’r Gronfa Gelf.  Weithiau, bydd y crochenyddion yn rhoi darnau a ddaethant gyda hwy i’w harddangos, neu ddarnau a wnaethant yn ystod yr Ŵyl.

Cofnodir gweithgaredd yr Ŵyl mewn ffotograffau a recordiadau sy’n cael eu catalogio a’u cadw yn yr Archif Gerameg. Mae gan ddarnau crochenwaith yr Ŵyl le arbennig; nid yn unig am fod gennym dystiolaeth archifol o’u creu, ond hefyd oherwydd yr atgofion cyfunol annwyl o ymweliad y crochenydd ag Aberystwyth.

“Rydyn ni’n deall nawr…rydyn ni nawr yn gwybod pam mae crochenwyr yn gwneud hyn, yn gweld y rheswm am eich angerdd ynglŷn â’ch celfyddyd, mae’r broses yn un mor hardd” Un o’r gynulleidfa wrth Rita Gudino yn 2015.

Casgliad Crochenwaith y Brifysgol

Cafodd gwrthrychau o glai wedi’i danio eu gwneud ymhob rhan o’r byd ers miloedd o flynyddoedd. Mae eu cynllun, eu hadeiledd a’u defnydd yn gallu dweud llawer wrthym am y cymdeithasau lle cânt eu cynhyrchu. Cynrychiolir traddodiadau crochenwaith o nifer o gyfnodau ac o wledydd yng nghasgliad Crochenwaith Prifysgol Aberystwyth.

Un o’r cyntaf i gyfrannu rhodd o grochenwaith i’r casgliad oedd George E. J. Powell o Nanteos, ger Aberystwyth. Roedd Powell wedi casglu enghreifftiau o grochenwaith Satsuma cyfoes o Japan yn ogystal â chrochenwaith cynharach arall o’r dwyrain pell, y dwyrain canol ac o Ewrop. Gadawodd y rhain i’r Brifysgol yn 1882.

Rhwng y ddau ryfel byd, rhoddwyd arian i’r Brifysgol gan y chwiorydd Davies o Gregynog, er mwyn sefydlu Amgueddfa Gelf a Chrefft. Cafodd Sidney Kyffin Greenslade (1867-1955), pensaer cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ei benodi’n ‘Guradur Ymgynghorol’.

Prynodd Greenslade weithiau crochenwaith gan y Crochenwyr Stiwdio a oedd yn dod yn amlwg, sef dynion a menywod a oedd yn gwneud, yn addurno ac yn tanio’u crochenwaith eu hunain. Fe brynodd hefyd enghreifftiau o grochenwaith hanesyddol o Japan, China, ac Ewrop a oedd wedi dylanwadu ar y crochenwyr cyfoes hyn, ac felly roedd ymwelwyr yn gallu cymharu’r dulliau newydd o weithio â’r hen ddulliau. Prynodd Greenslade a’r meistr darlunio, Dan Jones, lawer o enghreifftiau o grochenwaith slip wedi eu gwneud ym Mwcle, gogledd Cymru. Ar yr adeg honno, câi’r rhan fwyaf o’r gwaith a brynwyd ei wneud yn siopau’r gwerthwyr neu’r ystafelloedd gwerthu ym Mhrydain ac weithiau yn Ewrop.

 

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gwnaed llai a llai o ddefnydd o’r Amgueddfa Gelf a Chrefft a’i chasgliadau, a rhoddwyd llawer o ddarnau mewn storfa neu cawsant eu cadw mewn swyddfeydd. Ond, yn 1974 gwnaed ymdrech gan staff yr Adran Gelf Weledol fel yr oedd ar y pryd, Moira Vincentelli ac Alistair Crawford, i atgyfodi’r casgliad, ei gatalogio’n iawn ac ailddechrau prynu darnau er mwyn gwneud y casgliad yn un cyfoes. Ar yr adeg hon, gwelwyd adfywiad yn y diddordeb mewn crefftau ym Mhrydain, a chyda datblygiad Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cyngor Crefftau yn y 1990au, cafwyd mwy o gyfle i brynu crochenwaith rhyngwladol mewn arddangosfeydd a digwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghymru.

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition