TERRY BELL-HUGHES

Tachwedd 11 November 2017 – Ionawr 21 January 2018 (wedi cau 24/12/2017-01/01/2018)

Mae Terry Bell-Hughes yn wˆ r diymhongar sydd wedi dilyn gyrfa bortffolio fel crochenydd ac athro yng Ngogledd Cymru am ddeugain mlynedd. Mae wedi glynu’n dynn wrth y gwerthoedd a gyflwynwyd iddo yn gyntaf ar y cwrs crochenwaith yn Harrow yn y ’60au ac mae’n cynhyrchu crochenwaith swyddogaethol gan ddefnyddio gwydredd llwch a slip. Mae’n gwneud tebotau, platiau, jygiau a jariau ac mae’n mwynhau’r syniad y gellir defnyddio’r darnau hyn ond maent yn cymryd cam y tu hwnt i swyddogaeth â’r addurniadau od o elfennau ffigurol, y clustiau wedi’u torri’n feiddgar ar y jariau a’r handlenni hedegog.

Bu Terry’n gweithio am ddeng mlynedd yn Potter’s Croft, Oxshott, cartref Denise Wren, crochenydd stiwdio arloesol ac athro a oedd yn adnabyddus yn y ’60au am wneud model eliffantod ecsentrig. Mae’r siâp nodedig yn un o’r ffurfiau anifeiliaid sy’n ymddangos ar ei ddarnau bron fel elfen lofnod. Bydd ei waith yn gwneud cyfeiriadau eraill – mae ei jygiau â’u hynafiaid mewn prototeipiau canoloesol a gall y tebotau â chaeadau triongl a thraed treipod ddwyn i gof lestri addunedol o ddiwylliannau eraill. Felly, gallai ei botiau fod â defnydd ymarferol ond maen nhw hefyd yn wrthrychau ar gyfer arddangos a myfyrdod.

Mae’r sioe solo hon yn gorff newydd o waith a’r cwbl wedi’i gynhyrchu yn y naw mis diwethaf yn dilyn cais llwyddiannus am grant i ddatblygu cyrff clai a slips newydd ac i weithio ar raddfa fwy. ‘Cafwyd rhai llwyddiannau a rhai methiannau,’ meddai. Lludw o dân domestig yw sail llawer o’r gwydreddau ac mae’n mwynhau’r syniad ei fod yn ymgorffori defnyddiau sydd wrth law. Bydd y llestri’n dechrau ar ffurf a daflwyd ond bydd y peth cordeddu a’r pantiadau’n pwysleisio plastigrwydd y clai a hynny’n cael ei amlygu ymhellach neu ei gyferbynnu gan ddyluniadau beiddgar ac annisgwyl yr handlenni. Ar gyfer yr arddangosfa hon mae Terry Bell-Hughes wedi creu teuluoedd o ffurfiau sy’n edrych yn dda mewn grwpiau ond mae pob un yn ddarn unigryw wedi’i ddylunio i ennyn chwilfrydedd ac i gyfareddu.

Terry Bell Hughes
Sgwrs ac arddangosfa yn yr Oriel
Dydd Iau 11 Ionawr 2.00–4.30 pm
Cyfarfod yn yr Oriel Serameg, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, am 2.00pm
ac arddangosfa i ddilyn yn y Stiwdio Serameg. AM DDIM

TBH teapots sq