Ail: Greu: Wedi’u huwchgylchu a’u cydosod yng Nghymru. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ail: Greu 

Wedi’u huwchgylchu a’u cydosod yng Nghymru. 

Mae’r arddangosfa hon yn rhoi sylw i geramegwyr sy’n herio modelau cynhyrchu traddodiadol trwy ailddefnyddio cerameg sydd wedi’i daflu, cofleidio pethau achubedig, a chydosod ffurfiau, weithiau gan gyfeirio at grochenwaith hanesyddol yng Nghymru. I’r rhan fwyaf o’r artistiaid hyn, mae cynaliadwyedd yn rhan ganolog i’u dull ac mae wedi’i fynegi mewn rhai agweddau ar eu hymarfer.  

Rydym yn ddiolchgar i Grant Gŵyl Ddwyflynyddol y British Council a ariannodd y cyfnod preswyl i ddod â’r artist Twrcaidd, Elif Ağatekin, i weithio gydag artistiaid Cymreig yn stiwdios Crochendy Nantgarw ger Caerdydd. Er bod Nantgarw yn enwog am gynhyrchu porslen am gyfnod byr (1813-1820), mae gan y pentref hanes llawer hirach o gynhyrchu crochenwaith, gan gynnwys pibellau ysmygu clai, sef rhywbeth a fu’n parhau i’r ugeinfed ganrif. Mae Sally Stubbings wedi ymchwilio i’r rysáit gynnar ar gyfer y corff porslen, ac mae wedi defnyddio hyn i gynhyrchu ei llestri bregus, sy’n drosiadau ar gyfer y niferoedd anferth o eitemau a gollwyd yn yr odynau yn y cyfnod cynnar. Mae Ağatekin yn nodedig am ei cherfluniau sy’n seiliedig ar gerameg diwydiannol sydd wedi’i uwchgylchu. Mae Bonnie Grace yn ail-ddychmygu traddodiad poblogaidd y jwg Gymreig, sydd wedi’u cydosod o siapiau wedi’u torri allan. 

Mae gosodwaith Linda Norris yn defnyddio gwydr, ond mae’n cyfeirio at gerameg glas a gwyn ac arddangosfa ddomestig boblogaidd, fel y mae Paul Scott, sy’n adnabyddus am drin crochenwaith troslun glas a gwyn, gan danseilio patrymau cyfarwydd i dynnu sylw at faterion gwleidyddol, amgylcheddol a chymdeithasol cyfoes. Mae hefyd yn cyfeirio at ddulliau hanesyddol o drwsio gan ddefnyddio staplau, glud a kintsugi, sef y dechneg atgyweirio Japaneaidd sy’n defnyddio aur. Mae’r aur yn yr atgyweiriad yn rhoi gwerth o’r newydd i ddarn o gerameg sydd wedi torri. Mae bellach yn dechneg grefft boblogaidd, ac mae Nishikawa Iku, athro ac adferwr kintsugi Japaneaidd, sydd wedi’i leoli yn Rhydychen wedi datblygu deunyddiau newydd i wneud kintsugi yn fwy hygyrch yn fyd-eang. 

Mae proses greadigol Peter Bodenham yn aml yn dechrau trwy gerdded ar hyd arfordir Gorllewin Cymru, lle mae’n casglu plastig o’r cefnfor, samplau daearegol a theilchion ceramig. Mae’r darnau wedi’u cydosod yn gerfluniau bach, sy’n rhoi ystyr newydd i’r elfennau sydd wedi’u taflu. 

Yn y stiwdio, mae gwastraff yn bryder arall. Mae Cleo Mussi yn gwneud mosaigau o gerameg wedi’i lunbrintio a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi. Serch hynny, mae ei darnau i’r wal, sy’n ffraeth a digrif yn ôl pob golwg, yn adlewyrchu materion difrifol mewn perthynas â’r amgylchedd, ein gorffennol diwydiannol a faint o eitemau mae pobl yn eu prynu. Mae Melanie Brown yn cynnwys naddion ei darnau porslen yn ei gwaith, tra bod y gwneuthurwr Pwylaidd Monika Patuszynska yn chwalu mowldiau ffatri sydd wedi’u taflu ac yn eu hailadeiladu, gan ganiatáu i’r clai gwlyb dreiddio i’r craciau i greu ffurfiau amgen.  

Wrth i wneuthurwyr ddod yn fwyfwy ymwybodol o effaith amgylcheddol gweithio gyda chlai, mae’n briodol bod artistiaid yn archwilio sut i anrhydeddu’r gorffennol ar yr un pryd â chreu cerameg, a hynny mewn modd cydwybodol. 

 

 

 

Mehefin 21 June – Hydref 12 October 2025 

 

Elif Ağatekin 

Peter Bodenham 

Bonnie Grace  

Nishikawa Iku  

Cleo Mussi 

Linda Norris 

Sally Stubbings 

Ac eraill/and others 

 

Re:Made  exhibition sales list

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *