100 Mlynedd o Fenywod mewn Serameg
Arddangosfa yn dathlu’r 100 mlynedd diwethaf o fenywod yn gwneud a dylunio serameg ym Mhrydain, yn cynnwys gwaith o Gasgliad Serameg Prifysgol Aberystwyth. Gwiriwch ddyddiadur Canolfan y Celfyddydau neu www.ceramics-aberystwyth.com i gael y newyddion diweddaraf am gyflwyniadau a digwyddiadau.
20 Hydref 2018 – 13 Ionawr 2019
Crochenwaith Stiwdio Cynnar
Mae’r arddangosfa hon yn nodi canrif o gasglu cerameg yn Aberystwyth, sydd hefyd yn cyd-daro â genedigaeth crochenwaith stiwdio wrth iddo ddatblygu ym Mhrydain. Arlunwyr dosbarth canol wedi’u hyfforddi mewn colegau celf oedd yr arloeswyr crochenwaith stiwdio a ddechreuodd wneud crochenwaith, ac ymgymryd â’r holl waith, o’r creu i’r addurno, eu hunain. Cyn hynny, gweithgarwch i ddynion y dosbarth gweithiol oedd creu crochenwaith, yn enwedig y taflu a’r tanio. Dim ond addurno’r cerameg a ystyriwyd yn briodol i fenywod. Roedd crochenwaith stiwdio, felly, yn herio stereoteipiau dosbarth a rhyw i fenywod. Cofiai Denise Wren am ei brwydr i ddod o hyd i grochenydd a fyddai’n ei dysgu i daflu ar yr olwyn a bu Frances Richards yn ddewr iawn yn adeiladu odyn yn ei gardd yn Highgate yn Llundain.
Cawsai crochenyddion stiwdio cynnar eu dylanwadu gan chwaeth newydd ar gyfer cerameg Tsieineaidd – nid y glas a gwyn enwog ond gwydreddau brown a gwyrdd golau tawel y cyfnod Sung (960-1279). Sefydlodd Bernard Leach grochenwaith yn St Ives yn 1920 ac roedd yn ffigwr amlwg yn natblygiad tueddiadau eingl-ddwyreiniol mewn crochenwaith stiwdio. Treuliodd Katharine Pleydell-Bouverie a Norah Braden amser yn St Ives cyn mynd i weithio gyda’i gilydd ar stad teulu Katharine. Bu’r ddwy yn arbrofi â gwydreddau lludw ac odyn anwadal a gawsai ei danio â choed a’i fwydo â thanwydd drwy’r nos er mwyn cyrraedd y tymheredd cywir. Mae rhinweddau cywrain y crochenwaith Tsieineaidd yn amlwg ar eu gwaith ond yn llawer mwy modern. Ceir rhinweddau modernaidd tebyg hefyd yng ngherameg Deborah Harding y gellir ei hystyried yn rhagflaenydd Lucie Rie. Bu Nell Vyse yn astudio testunau ysgolheigaidd yn Ystafell ddarllen yr Amgueddfa Brydeinig ac yn cydweithio â’i gŵr Charles i ail-greu ffurfiau a gwydreddau crochenwaith Tsieineaidd cynnar.
Yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd, cynhyrchodd llawer o grochenyddion benywaidd gerfluniau cerameg ar gyfer ystafelloedd mewn cartrefi. Datblygodd Stella Crofts enw da am grwpiau anifeiliaid. Creodd Phoebe Stabler brototeipiau yn yr odyn ond gwerthodd y cynllun i nifer o ffatrïoedd. Roedd Louise Powell yn galigraffydd a chynllunydd a oedd yn gweithio mewn cydweithrediad â’i gŵr, Alfred. Yn ystod y 1920au datblygodd y ddau gynlluniau ar gyfer Wedgwood ac addurno darnau unigol.
Cwestiynu Traddodiad Leach
Ehangwyd cynhyrchu crochenwaith stiwdio yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Dysgwyd crochenwaith yn ehangach o lawer mewn colegau celf ac mewn ysgolion a chreodd y ffyniant newydd awch am gynlluniau modern ac addurniadau trawiadol mewn cartrefi. Câi menywod fynediad at addysg uwch ac roedd hi’n haws hyfforddi mewn cerameg. Hyrwyddwyd dylanwad enfawr Bernard Leach a’i syniadau a’i athroniaethau yn eang drwy A Potter’s Book, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1940 a’i ailargraffu sawl gwaith. Ymgartrefodd trydedd wraig Leach, Janet, ym Mhrydain ar ôl 1955 a gadael ei hôl yn yr ardal hon. Y crochenydd benywaidd mwyaf nodedig, er hynny, oedd Lucie Rie, a ddaeth i Brydain yn ffoadur o Awstria yn 1938. Cynigiai ei gwaith modernaidd cŵl yn pwysleisio ffurf a gwead organig ffordd amgen ymlaen. Caiff agweddau o’r dull hwn eu hadlewyrchu mewn gwaith o’r 1970au pan ddatblygodd nifer o artistiaid cerameg o Brydain, a menywod yn bennaf, borslen i greu ffurfiau cerfluniol ar raddfa fechan. Gweler Marianne De Trey.
Addurno yn Dychwelyd
Yn gyffredinol, mabwysiadai’r traddodiad eingl-ddwyreiniol neu Leach liwiau tawelach ac addurno â gwaith brwsh eang er mwyn hyrwyddo’r ffurf. Erbyn y 1980au, mi wnaeth menywod, a oedd yn cael eu cysylltu ers tro ag addurno cerameg, hyrwyddo dychwelyd at arwynebau addurnol mwy anturus a lliwgar. Gweler Janice Tchalenko, Charlotte Mellis, Sophie McCarthy, Philomena Pretsell, Fiona Salazar, Morgen Hall, Mary Rose Young.
Menywod yn y Coleg Celf Brenhinol
Yn y 1970au dechreuwyd herio’r cwlt o daflu virtuoso a thechnoleg odyn a fu’n dominyddu’r mudiad crochenwaith stiwdio. Roedd yn well gan y genhedlaeth newydd syniadau celf na delfrydau crefft. Yn y degawd hwn, cynhyrchodd y Coleg Celf Brenhinol nifer o ceramegwyr benywaidd a oedd hefyd yn cael eu hybu gan y Cyngor Crefftau a oedd newydd ei sefydlu.
Gweithiai Glenys Barton mewn porslen slip â delweddau print; Jacqueline Poncelet mewn porslen ac yn ddiweddarach mewn ffurfiau cerfluniol; creai Elizabeth Fritsch drefniadau grŵp wedi’u hadeiladu â llaw gyda lliwiau ancerameg rhyfedd ac addurniadau rhithiol; mae Alison Britton yn nodedig am lestri ôl-fodern ac iddynt arwynebau arlunyddol llachar; a defnyddiai Carol McNicoll slipfwrw i awgrymu gwehyddiad chwareus.
Adfer Technegau Menywod Traddodiadol
Yn y 1960au, roedd Ruth Duckworth eisoes yn un o’r crochenyddion cyntaf a ddewisodd weithio drwy adeiladu â llaw a oedd yn cael ei gysylltu’n gryf â chrochenwaith gan fenywod yn Affrica, Asia a chyfandiroedd America. Ar ôl y 1980au, menywod oedd prif hyrwyddwyr adfywiad nodedig o grochenwaith torchog ac wedi’i adeiladu â llaw a fyddai’n aml yn ymgorffori arwynebau sgleiniog neu loyw. Gweler Mollie Winterburn, Betty Blandino, Ruth Duckworth, Beverley Bell Hughes.
Tanio
Mewn crochenwaith stiwdio dechreuodd llawer o grochenyddion ymddiddori mewn tanio â choed, fel arfer mewn odynau mawr. Golygai oriau lawer o lafur caled ond effeithiau arwyneb siawns gwych ar y llestri. Bu tanio â choed yn gysylltiedig â dynion ers blynyddoedd ond cyffrowyd nifer o fenywod gan y broses, a’r mwyaf amlwg yn eu plith oedd Pleydell-Bouverie a Braden yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd ond llawer mwy ar ôl y 1970au. Math arall o danio arbrofol a ddenai fenywod oedd raku a thanio â mwg. Gweler Gillian Lowndes, Meri Wells.
Tueddiadau Ffiguraidd
Yn gyffredinol, cawsai’r ffiguryn ei gasáu o fewn i’r mudiad crochenwaith stiwdio oherwydd ei gysylltiadau â chwaeth gor-bur ac uchelwrol neu fasgynhyrchu. Yn ystod y 1920au bu cerameg ffiguraidd yn boblogaidd am gyfnod byr ond roedd hi’n ganol y 1980au cyn dychwelyd o ddifrif at addurno ffigurol. Mae menywod wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y genre hwn yn enwedig â ffurfiau anifeiliaid. Gweler Sandy Brown, Gillian Still, Claire Curneen, Katie Scarlett Howard, Christie Brown, Catrin Howell, Anna Noel, Trupti Patel
Mynegi Barn
Roedd dylanwad ffeminyddiaeth ar ôl y 1970au yn amlwg mewn nifer o ddulliau cerameg a dewisodd rhai artistiaid cerameg gynnwys mwy problematig, pryfoclyd neu eironig. Gweler Jo Taylor, Vicky Shaw, Carole Windham, Ingrid Murphy
Serameg Nawr
Yn yr 21ain ganrif mae maes serameg wedi agor allan mewn ffyrdd newydd o ran cerflunwaith, gosodiad ac o ran cyfuno â thechnolegau digidol newydd. Mae artistiaid benywaidd wedi croesawu’r datblygiadau newydd hyn yn frwd ac maent yn ffigurau blaenllaw yn y maes.