Chaos, Flow, Meander

Geoffrey Swindell

Gweithiau o’r Casgliad Cerameg a ysbrydolwyd gan ffurfiau naturiol.

Oriel Cerameg | Ceramic Gallery

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre

Mai 5 May – Gorffennaf  15 July 2018

 

Gordon Baldwin

Alan & Ruth Barrett Danes

Beverley Bell Hughes

Christine Constant

Thiébaut Chagué

Marianne Rahneberg

Richard Slee

Geoffey Swindell

Mary White

 

“O bopeth y gellid ei ddychmygu am fyd Natur, fyddai dim byd yn anghredadwy.” Pliniws yr Hynaf

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys gwaith o’r Casgliad Cerameg a wnaed gan grochenyddion sydd wedi’u hysbrydoli gan ffurfiau organig o fyd natur.

Mae rhai yn creu llestri sy’n ymateb i gymhlethdod cynwysyddion byd natur megis cragen creadur y môr, coc?n y trychfil, a choden hadau; ffurfiau hynod sydd byth yn datgelu eu cyfrinachau mewnol yn llwyr. (Geoffrey Swindell, Mary White a Molly Winterbourne). Mae rhai yn chwarae â llinellau syth a chrwm strwythurau botanegol, gan greu ffurfiau ag ymylon crych a llinellau tonnog, (Richard Slee, Deirdre Burnett) tra bo eraill yn atgoffa rhywun o agweddau ar ddaeareg trwy eu siapau a gwead eu harwynebau (Claudi Casanovas, Beverley Bell Hughes, Billy Adams). O ffyngau i flodau, o’r môr i’r lan, ac o dd?r i gerrig, mae hyblygrwydd clai yn ei wneud yn arbennig o addas ar gyfer gwaith sy’n cofleidio ffurfiau, symudiadau ac amrywiaeth di-ben-draw’r byd naturiol.

 

http://www.ceramics-aberystwyth.com/