100 Tebot o’r Casgliad Serameg

 

Y tebot yw un o’r gwrthrychau anoddaf i’w wneud mewn crochenwaith:  Rhaid i’r corff ddal digon o ddŵr i ystwytho’r te, dylai’r handlen fod yn gyfforddus i’w dal, dylai’r caead aros yn gadarn yn ei le, a rhaid i’r big arllwys yn llyfn heb ddiferu.  Mae’r tebotau a welir yng Nghasgliad Serameg Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys amrywiaeth o ffurfiau, o’r siapiau traddodiadol i ddarnau cerfluniol a gosodweithiau.  

Ymddangosodd y tebotau cyntaf yn Tsieina tua 1500 OC.  Gwnaed y tebotau Yixing cynnar o glai arbennig o’r enw zisha, a’r gred oedd ei fod yn gwella blas y te dros amser.  Ymledodd yr arfer o yfed te i Ewrop trwy lwybrau masnach yn yr ail ganrif ar bymtheg a daeth yn ffasiynol ym Mhrydain ar ôl i Catherine o Braganza, Portiwgal, gwraig y Brenin Siarl II, gyflwyno’r arfer i’r llys brenhinol.  Ar yr adeg honno, mewnforiwyd te a llestri te porslen i Brydain o China a chael eu trethu’n uchel iawn, felly dim ond y cyfoethog a allai eu fforddio.  

Ar ôl i’r trethi ar de gael eu gostwng ym 1784, daeth yfed te yn fwy cyffredin ym Mhrydain.  Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, aeth yr Ymerodraeth Brydeinig ati i ehangu’r planhigfeydd te, yn gyntaf yn Assam ac yn ddiweddarach yn Ceylon, am resymau gwleidyddol a busnes.  Rheolwyd y fasnach de gan y system drefedigaethol a oedd yn ecsbloetio gweithwyr y planhigfeydd a’r cymunedau. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, roedd llai o fewnforion porslen Tsieineaidd a gwelwyd datblygiadau mewn serameg Brydeinig ac o ganlyniad i hyn anogwyd gweithgynhyrchwyr fel Wedgwood a Spode i gynhyrchu tebotau fforddiadwy ar gyfer y farchnad dosbarth canol a oedd yn tyfu.  

Ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif gwelwyd llai o ddefnydd o’r tebot gan fod yn well gan bobl gyfleustra bagiau te mewn mygiau.  Fodd bynnag, yn ystod cyfnod clo COVID-19, defnyddiwyd y tebot yn fwy aml wrth i bobl ddychwelyd at ddefodau arafach yn y cartref.  Yn ddiweddar, mae galw cynyddol am debotau o’r gorffennol, rhai hynafol a rhai wedi’u gwneud â llaw oherwydd trendiau megis ‘y bwthyn rhamantaidd’ a ‘bwrddlunio’, lle mae byrddau bwyd yn cael eu curadu yn ôl themâu penodol ac yna’n cael eu rhannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol fel Instagram.  

Pa un fyddech chi’n ei ddewis ar gyfer eich cartref?  

Work from the Ceramic Collection featured in this exhibition

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *