Casgliad Cerameg Prifysgol Aberystwyth yw un o’r prif gasgliadau cerameg anniwydiannol ym Mhrydain. Mae’n cynnwys tua 2000 o ddarnau. Prif bwrpas y casgliad yw casglu darnau o gerameg anniwydiannol, eu cofnodi a’u diogelu fel tystiolaeth o rai o’r enghreifftiau gorau o Gerameg gyfoes Brydeinig a Rhyngwladol ers dechrau’r 20fed ganrif.
Ein nod yw sicrhau bod y Casgliad Cerameg ar gael yn rhwydd i gynulleidfa mor eang â phosibl drwy arddangosfeydd, rhaglenni addysg, cyhoeddiadau, cyfryngau newydd a thrwy geisiadau gan unigolion. Rydym yn cynorthwyo mentrau ymchwil drwy sicrhau bod adnoddau yr Archif Cerameg weithredol ar agor iddynt, wrth inni hefyd chwilio am ddarnau newydd a chatalogio a datblygu’r archif honno; rydym yn darparu cymorth ar amrywiaeth eang o ddeunydd print a chlyweledol sy’n ymwneud â’r casgliad ei hun, ac ar gerameg anniwydiannol ryngwladol a Phrydeinig yn gyffredinol.
Rydym yn arbennig o ymroddedig i gyfrannu at ddiwylliant gweledol Cymru drwy gasglu, arddangos a chadw cofnod o gerameg Gymreig, a drwy ddatblygu arddangosfeydd a gweithgareddau i gynulleidfa leol a bod yn rhan o’r Ŵyl Gerameg Ryngwladol. Rydym yn anelu at ddilyn yr arferion gorau ym mhob agwedd ar waith y Casgliad Cerameg a rhoddir ystyriaeth haeddiannol i hyrwyddo materion Cyfle Cyfartal, Celfyddydau ac Anabledd ac Amrywiaeth Diwylliannol.