Gweithgaredd i’r Teulu

Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu cynnig sesiynau teuluol ar ddydd Sadwrn yn ystod misoedd y gaeaf ar gyfer y dyfodol rhagweladwy oherwydd adnoddau staffio. 

Gallwn gynnig sesiwn gwneud i ysgolion a grwpiau yn y crochendy, ynghyd â chyfle i archwilio’r arddangosfa yn yr oriel. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag: Amanda Trubshaw: amj@aber.ac.uk 01970 62160.  

Ewch i’n gwefan neu cysylltwch â ni i gael manylion am weithgareddau a digwyddiadau yn y dyfodol fel gweithdai, dosbarthiadau meistr, sgyrsiau a gweithgareddau eraill sy’n ymwneud â’n harddangosfeydd. 

Chwarae a Dysgu yn eich cartref

Dyma rai syniadau ar gyfer cael plant oed 3-7 a’u teuluoedd i ddysgu gyda’i gilydd.

Gallech hefyd gael syniadau am weithgareddau celf a chrefft cryno i’w gwneud gartref yn ein Pecyn Cymorth ar gyfer Dysgu fel Teulu. Cynlluniwyd hyn i addysgwyr mewn amgueddfeydd ac orielau ond gall rhieni a gofalwyr hefyd ei ddefnyddio. Rhowch wybod i ni sut hwyl rydych chi’n ei gael ac anfonwch ddarluniau o’ch creadigaethau atom ac fe’u rhown ni nhw ar dudalen Facebook yr Ysgol.

Gêm Mi Wela i (â’m llygad bach i…)