Still o Keramika gan Mandy McIntosh
Caiff y gwaith ei gyflwyno yn yr Wyl Gerameg Ryngwladol
Gwaith animeiddio i’r rhyngrwyd, lle mae darnau o’r casgliad cerameg yn cael eu gosod mewn byd o ffantasi a pharadwys, a’u dehongli gan blant.
Roedd cyfnod Mandy McIntosh yn artist preswyl yn y Casgliad ac Archif Cerameg yn cyd-ddigwydd â Mis yr Amgueddfeydd ac Orielau ym mis Mai. Ei maes yw gwneud ffilmiau, ac fe’i henwebwyd am wobr BAFTA am ei gwaith. Bu’n gweithio yn yr Ysgol Gelf ac yn arwain gweithdai i blant yng Nghanolfan y Celfyddydau, gan ddefnyddio prosesau lluniadu, fideo, ac animeiddio sain a chyfrifiadurol.
Bydd yn creu gwaith celfyddydol ar gyfer y we, sydd wedi ei sylfaenu ar gerameg o’r casgliad. Caiff y gwaith ei gyflwyno yn yr Wyl Gerameg Ryngwladol ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2001.
Rhaglen Addysg gydag ysgolion
Mandy McIntosh ar y cyfrifiadur
Cafodd y cyfnod preswyl ei noddi gan Cywaith Cymru a Chyngor Amgueddfeydd Cymru.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue to use this site we will assume that you are happy with it.Ok