What’s New? Recent Acquisitions

Mae Casgliad Cerameg yn Aberystwyth ymhlith y prif gasgliadau o gerameg anniwydiannol ym Mhrydain, a chanddo fwy na 2000 o ddarnau ar hyn o bryd. Rhwng 1920-1936, drwy gyllid gan chwiorydd Davies, Gregynog, cronnodd y brifysgol gasgliad pwysig o grochenwaith stiwdio arloesol a llestri slip Cymreig. Ers canol y 1970au mae’r casgliad yn cael ei gadw a’i arddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau. Mae’n bolisi casglu cerameg gyfoes o Brydain a’r tu hwnt, gydag ymrwymiad arbennig i gerameg yng Nghymru. Mae llawer o’r darnau a arddangosir wedi’u cael drwy’r ?yl Gerameg Ryngwladol a thrwy raglen ein harddangosfa bresennol. Rydym yn ddiolchgar am gymorth ariannol gan Gronfa Grantiau Prynu’r V&A a’r Gronfa Gelf ac yn ddiolchgar hefyd i’r rhoddwyr hael a roes rai o’r darnau cynharaf.

What's New_poster_final