Bydd Anne yn gweithio mewn stiwdio dawel mewn gardd breifat mewn pentref gwledig yn Ne Cymru. Mae yna dawelwch ynglyˆn â’r stiwdio a’i phreswylydd oherwydd, i Anne, mae’n lle, yn syml, i fod. Bydd Anne yn cynllunio cwrs rheolaidd rhwng ei chartref a’i stiwdio, yn mynd heibio
i dirweddau a chyffyrdd sy’n sefydlog a hefyd yn newid yn barhaus.
Bydd y newidiadau hyn yn goleuo arfer Anne ar ddiwrnod arbennig ac,
dros amser, yn dylanwadu ar y ffordd y bydd cyrff o waith yn ymgasglu.
Mae tirwedd yn bwysig i Anne, boed hynny ar raddfa finiatur neu
fawr. Gweadeddau, lliwiau, cyferbyniadau, haenau, bydd y rhain i gyd yn goleuo ei hestheteg. Yn y blynyddoedd a fu bu Anne yn gweithio â chwmni tirlunio. Byddai’n dylunio ac yn creu tirweddau hunangynhaliol o fewn ffiniau diffiniedig, fel cylchfannau neu gilffyrdd. Yn y blynyddoedd ers hynny cafodd ei chomisiynu i ddylunio gweithiau celf cyhoeddus. I Anne, y ffocws allweddol fyddai natur safle-sbesiffig y rhain, boed hynny’n ddylunio dulliau o dawelu traffig neu nodweddion cyfoes mewn capeli Cymreig.
Gyda chymorth Gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, fe aeth Anne ar ymweliad ymchwil i Japan. Cafodd estheteg dylunio Japaneaidd effaith syfrdanol arni. O safbwynt cyfnerthu natur y
gwaith yr oedd eisoes yn ei wneud ac o ran ei gyrru ymhellach hyd lwybr creadigol penodedig. Cafodd ei tharo eto gan dirweddau a’i phersbectif corfforol ohonyn nhw. Llechweddau coediog yn ymddangos yn fawreddog yn eu graddfa ond yn llochesu tablo miniatur sy’n fwy perthynol i bonsai. Roedd y defnydd o liw yn taro tant ag Anne hefyd. Mewn ystafelloedd gwyn llachar gyda ffitiadau dur gwrthstaen roedd atalnodau bychan bach o goch yn drawiadol. Dim ond ciwbiau siwgr wedi’u lapio oedd y rhain, wedi’u gosod yn fwriadol. Roedd platiau bwyd parod o sushi Japaneaidd a melysion yn apelio at Anne yn eu manylder ymddangosiadol coeth ac oherwydd bod y lliwiau mor llachar. Gwymon gwyrdd glân yn erbyn reis gwyn ffres, pysgod pinc dwys, manylion melyn saffrwm. Y profiad Japaneaidd hwn osododd y palet lliw ar gyfer gwaith cyfredol Anne.
Mae Anne yn ddeheuig am ystyried pethau y bydd yn eu gweld ac yn eu profi, boed hynny’n wrthrychau, tirweddau neu gyfnewidiadau personol. Mae’r arsylliadau a’r ystyriaethau hyn yn amlwg yn ei cherfluniau tsieni asgwrn ac yn awgrymu myrdd o ystyron. Byddwn yn tynnu ar ein profiadau ein hunain hefyd wrth ystyried gwaith Anne. Bydd y rhain yn effeithio ar ein ffordd o edrych arnyn nhw a’r hyn y byddwn yn ei gael o’r gwaith mewn ffyrdd na allai Anne eu rhagweld. Pan ofynnwyd iddi unwaith a fydd hi’n gwneud gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd penodedig, ei hateb oedd ‘mae’n amhosib targedu cynulleidfa benodol, mae estheteg pobl mor amrywiol.’ Bydd Anne yn gwneud yn ôl yr hyn y bydd yn ei weld ac yn ei deimlo
yn y byd. Yn dawel neu’n bryfoclyd gall hyn daro tant â ni.
I Anne, mae’r arddangosfa hon yn grynodeb o lawer o wahanol bethau. Pethau y mae pobl wedi’u rhoi iddi, lleoedd y bu ynddyn nhw, golygfeydd a welodd a phethau y mae wedi’u casglu ar hyd y ffordd. Mae’n fap personol o fath ac yn cynrychioli ei thaith hyd yma. Daw Anne â bywyd llonydd i ni mewn ffurf finiatur fydd wedi’i gyfansoddi’n dawel.
Iaith Clai
Iaith Clai
The Language of Clay – Anne Gibbs
Llonydd / Still
08/04/2017-11/06/2017