Llwybr Darganfyddiad – Serameg o Uzbekistan
Oriel Serameg
22 Mehefin – 26 Awst 2019
Mae’r arddangosfa hon yn dangos enghreifftiau cyfoes o waith o’r saith ardal sy’n cynhyrchu crochenwaith yn Uzbekistan. Mae’n ystyried treftadaeth gyfoethog Uzbekistan mewn cynhyrchu serameg ochr yn ochr â thraddodiadau crochenwaith gwerin Cymreig megis crochenwaith slip Bwcle ac Ewenni sydd yng Nghasgliad Serameg Prifysgol Aberystwyth.
Llwybr Darganfod – Cerameg o Wsbecistan
O’r hen fyd i’r Oesoedd Canol, cododd dinasoedd mawrion yn Wsbecistan ar hyd Llwybr y Sidan, y prif lwybr masnach hynafol rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin. Mae gwaith cloddio archeolegol wedi datgelu bod y gwaith o greu cerameg yn dra datblygedig mor gynnar â’r 8fed ganrif, pan gynhyrchwyd y cerameg gwyrdd gwydrog cyntaf. Rhwng y 14eg a’r 16eg ganrif, ffynnodd cynhyrchu cerameg a gwnaethpwyd ystod eang o lestri cerameg i’w defnyddio yn y cartref ac i’w masnachu’n rhyngwladol. Ysbrydolodd porslen Tsieina, a fasnachwyd ar hyd Llwybr y Sidan, gynhyrchiant cerameg ysgafn, tebyg i borslen gan ddefnyddio defnydd tywodlyd, mandyllog o’r enw ‘kashin’. Defnyddiwyd y mwyn cobalt i greu cynlluniau addurnedig glas i efelychu cerameg Tsieina.
Yn yr 17eg a’r 18fed ganrif, wrth i’r cysylltiadau rhwng yr ardaloedd a oedd yn cynhyrchu crochenwaith wanhau, datblygodd llawer o ranbarthau arddulliau unigryw. Arbenigodd y prif grochenyddion ar eu crefft a throsglwyddwyd cyfrinachau’r grefft i genedlaethau dilynol y teulu. Dysgwyd y broses gynhyrchu gyflawn i’r bechgyn ond cyfyngwyd y merched i swyddogaethau ‘eilaidd’ megis addurno. Erbyn y 19eg ganrif, roedd addurniadau cerameg Wsbecistan yn cynnwys ystod eang o batrymau, ac yn aml yn benthyg patrymau a motifau cymhleth o waith celf cymhwysol arall megis cerfio pren a brodwaith.
Dirywiodd y gwaith o gynhyrchu crochenwaith yn Wsbecistan yn gynnar yn yr 20fed ganrif wrth i fwy o nwyddau masnachol gael eu mewnforio o Rwsia. Ar ôl y Chwyldro yn Rwsia, cafwyd adfywiad yn y grefft yn y 1920au pan ffurfiwyd artels (mentrau crefft gydweithredol) a chyflwyno systemau newydd ar gyfer hyfforddi prentisiaid. O 1960, gwelwyd cynnydd mewn cynhyrchu cerameg dan reolaeth Sofietiaid lleol, canolbwyntiwyd canolfannau hyfforddi mewn ardaloedd megis Tashkent, Rishtan a Khiva. Hyfforddwyd y meistri mewn arbenigeddau newydd a denwyd timau o fyfyrwyr. Enillodd Wsbecistan annibyniaeth o’r hen Undeb Sofietaidd yn 1991.
Mae cerameg addurnedig yn parhau yn rhan o ddiwylliant Wsbecistan ac yn chwarae rhan bwysig ym mywyd beunyddiol Wsbecistan. Fe’i defnyddir ar gyfer addurniadau mewn pensaernïaeth ac yn y cartref. Mae arferion yn gysylltiedig â chael gafael ar ddarnau newydd: cynigir llestri i’r bwrdd fel anrhegion priodas ac mae’r grwpiau cymunedol rhannol lywodraethol a elwir y ‘mahallas’ yn cadw setiau o lestri bwrdd i’w defnyddio yn un swp.
Ymhlith y dulliau traddodiadol o addurno y mae cerfio, ysgythru, stampio a phaentio. Torrir stampiau weithiau o gyrs neu bren ac fe’u gwneir weithiau o wreiddlysiau neu glai. Caiff y paent ei wneud o fwynau a’i osod â brwsh ar cerameg wedi’i gorchuddio â slip gwyn. Defnyddir motifau planhigion geometrig hynafol, sy’n llawn ystyr symbolaidd, ochr yn ochr â darluniau naturiolaidd o eitemau pob dydd cyfoes. Ystyrir y cynlluniau traddodiadol hyn bellach yn fynegiant o ddiwylliant a hunaniaeth genedlaethol.
Mae’r arddangosfa hon yn cynrychioli cerameg gan feistri o rai o’r ardaloedd cynhyrchu crochenwaith mwyaf arwyddocaol yn Wsbecistan. Mae’n parhau deialog artistig rhwng Wsbecistan a Chymru a gododd o’r rhaglen ‘Celfyddydau ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy’ a drefnwyd gan y Cyngor Prydeinig ar y cyd â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn 2017.
Cefnogir yr arddangosfa hon gan Uzbekistan Airways, Cwmni Datblygu Twristiaeth Wsbecistan, Cymdeithas Gwaith Llaw Wsbecistan, y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Alisher Rakhimov: Cerameg Tashkent
Ganwyd y pen-ceramegydd, Alisher Rakhimov i deulu â thraddodiad hir o feistri ar eu crefft yn Tashkent, canolfan cynhyrchu cerameg hynafol. Astudiodd cerameg o fewn i draddodiad y teulu o oedran cynnar iawn ac yna yn y Coleg Celf Gwladwriaethol yn Tashkent. Arddangosodd ei waith yn Siapan, yr Almaen, UDA ac Israel a bu’n rhan o wahanol brosiectau UNESCO i adfywio technolegau cerameg y gorffennol.
Yn 2004 ef oedd awdur pum ffilm ddogfen ar gyfer UNESCO o’r enw Ceramicists of Uzbekistan ac yn 2006 golygodd argraffiad Saesneg newydd o lyfrau ei dad Mukhitdin Rakhimov (1903-1985) Artistic Ceramics of Uzbekistan ac Architectural Ceramics of Uzbekistan. Yn 2012 derbyniodd deitl ‘Gweithiwr Celf Anrhydeddus Wsbecistan’. Cynhaliwyd nifer o arddangosfeydd yn ei stiwdio yn Tashkent yn cynnwys Traditions and New Approaches to Ceramic Tiles yn 2014, Ceramics without borders yn 2015 a Continuous Flight yn 2016. Mae ei waith yn y casgliad yn yr Amgueddfa Gelf Gynhwysol yn Tashkent.
Abdulla Narzullaev: Gijduvan, Bukhara
Daw Abdulla Narzullaev o Bukhara, ardal sy’n enwog am ei cerameg wydrog liwgar. Daw o deulu o chwe chenhedlaeth o leiaf o feistri cerameg a brodwyr a dechreuodd feithrin ei grefft gan ei dad yn saith oed. Adfywiodd menywod y teulu arddulliau brodwaith traddodiadol yr ardal sy’n rhan o draddodiad Wsbec mawr arall, sef y Suzani, tecstil brodiog moethus, mewn sidan neu gotwm a fyddai’n ffurfio rhan o waddol priodferch.
Arddangosodd Narzullaev ei waith yn rhyngwladol mewn mwy na 100 o arddangosfeydd, yn cynnwys UDA, yr Almaen, Siapan, Pacistan a Kuwait. Yn 1992 agorodd amgueddfa cerameg yn Gijduvan, 45 cilometr o Bukhara, sydd hefyd yn gartref i’r gweithdy lle mae ef a’i gyd-weithwyr yn gwneud cerameg draddodiadol Gijduvan. Cyfyngir addurniadau Gijduvan i fotifau blodeuog a geometrig yn unol â’r traddodiad Islamaidd o beidio â chreu delweddau o bethau byw.
Alisher Nazirov: Rishtan
Mae Alisher Nazirov, o Rishtan yn Nyffryn Fergana, yn un o ceramegwyr ac athrawon mwyaf enwog Wsbecistan. O 12 oed, astudiodd gyda rhai o feistri cerameg Wsbecistan ac yn ystod y cyfnod Sofietaidd ef oedd y prif artist yn Ffatri Cerameg Gelf Rishtan. Ar ôl i Wsbecistan ddatgan ei hannibyniaeth o’r Undeb Sofietaidd yn 1991, gallai Nazirov ymweld â Siapan lle cafodd interniaeth gydag Isojichi Asakura, prif grochenydd enwog ysgol Kutani yng nghanol y 1990au.
O oedran cynnar roedd ganddo ddiddordeb mewn archaeoleg a’i harweiniodd i atgynhyrchu gwydredd ishkor – gwydredd gwyrddlas sy’n deillio o blanhigyn yr anialwch. Defnyddiwyd y gwydredd yn yr ardal ers y 10fed ganrif pan mae’n bosib y cafodd ei ddyfeisio wrth geisio copïo’r porslen Tsieineaidd glas a gwyn byd-enwog.
Cyfraniad Nazirov at gynnal treftadaeth ddiwylliannol Wsbecistan oedd sefydlu’r Ysgol ‘Usto-Shogird’ [Meistr-Myfyriwr]. Bu hefyd yn flaenllaw yn adfer hen ffurfiau a chynlluniau traddodiadol cerameg Rishtan a enillodd iddo’r teitl ‘Ceidwad y Traddodiadau’ yn 2016.
Ers hynny, arddangosodd ei waith ym Moscow, Komatsu yn Siapan ac yn Hannover a Munich yn yr Almaen. Mae ei weithiau ymhlith casgliadau amgueddfa Gelf Gwladwriaeth Wsbecistan, Academi’r Celfyddydau yn Wsbecistan, Amgueddfa Celfyddydau’r Dwyrain y Wladwriaeth ym Moscow, yr Amgueddfa Ethnograffeg yn St. Petersburg, a’r Amgueddfa Cerameg Asakura-san yn Komatsu.
Numon Ablakulov: Samarkand
Heddiw, mae traddodiadau’r ganolfan cerameg unigryw hon yn parhau drwy waith Numon Ablakulov a’i fab Inom Ablakulov. Maent yn ddisgynyddion i’r meistr enwog Abdullo Ablakulo (1648-1735) a sefydlodd ysgol cerameg Urgut yn yr 17eg ganrif. Mae gan Numon amgueddfa fach yn ei gartref ac ynddi gasgliad o weithiau gan ei dad a’i daid.
Mae’n hawdd adnabod cerameg Samarkand-Urgut oherwydd yr arddull addurniadol wreiddiol – gwydredd gwyrdd wedi’i ddiferu dros gefndir gwydrog melyn euraidd. Addurnir jygiau, dysglau a khums [llestri enfawr ar gyfer cadw dŵr a chorn] â chynlluniau hynafol wedi’u hysgythru â nodwyddau a elwir yn chizma [sef, yn llythrennol, ‘tynnu llun’].
Odilbek Matchonov: Khorezm
Mae Odilbek Matchonov yn defnyddio dulliau traddodiadol wrth weithio ers llawer o flynyddoedd. Mae e’n fab i’r pen-grochenydd enwog Raimberdi Matchonov y mae ei weithiau yng nghasgliadau nifer o amgueddfeydd ledled y byd. Cyfrannodd Odilbek at adfer henebion Al- Khorazmi , Al-Beruni (1999-2000), Bakhouddin Nakshbandi (2003), Sultan Vays ( 2004) ac eraill. Mae e’n cynhyrchu amrywiaeth o fathau o ddysglau cerameg traddodiadol fel y chanok bodiya [dysgl ddofn fechan ac iddi ochrau fertigol ar gynhalydd uchel] yn ogystal â ffiolau, cwpanau a phowlenni.
Ysgol cerameg Khorezm yw un o’r canolfannau cerameg mwyaf enwog yn Wsbecistan ac Asia Ganol. Ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd 15 gweithdy cerameg a thros 80 o feistri ar eu crefft yn gweithio ynddynt. Mae’n well gan grochenyddion Khorezm, gan amlaf, botiau dyfnach ac iddynt ochrau trwchus yn hytrach na dysglau gwastad. Gellir adnabod cerameg Khorezm oherwydd lliwiau cryf y gwydredd, sef glas dwfn y môr a gwyrddlas ar gefndir gwyn, fel arfer. Tueddant i hoffi patrymau a thechnegau traddodiadol yn y motifau addurnol.
Llestri Slip Bwcle ac Ewenni
Mae Bwcle yng ngogledd Cymru wedi ei chysylltu â chreu crochenwaith ers yr Oesoedd Canol tan i’r crochendy olaf gau yn 1946. Roedd yr ardal gyfagos yn drwch o adnoddau naturiol, yn cynnwys plwm sylffid, sef ffynhonnell gwydredd plwm ‘galena’. Yr adeg fwyaf cynhyrchiol oedd o ddiwedd yr 17eg ganrif i ddiwedd y 18fed ganrif.
Bryd hynny, byddai crochendy nodweddiadol ym Mwcle ar osod i brif grochenydd a fyddai’n rhedeg y busnes ac yn cyflogi tîm bach o ddynion a bechgyn. Trosglwyddwyd sgiliau o’r tad i’r mab er bod menywod yn rhedeg crochendai’n llwyddiannus pan nad oedd etifedd gwryw. Roedd Bwcle yn enwog am ei llestri storio mawr wedi’u taflu a’i dysglau pobi cywasgedig ac addurnedig. Byddai’r crochendai yn Ewenni ym Mro Morgannwg hefyd yn creu llestri slip defnyddiol yn ogystal â llestri thema megis anifeiliaid a jygiau pos. Roeddent yn enwog am eu deunaw ffiol dolennog a oedd yn perthyn i ddathliadau’r Flwyddyn Newydd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mro Morgannwg.
Addurnwyd darnau cynnar â sgrafitto; mae’n bosib fod bwystoriau goliwiedig Lloegr (gwyddoniaduron anifeiliaid) wedi dylanwadu ar y cynlluniau. Y dull mwyaf cyffredin o addurno ym Mwcle oedd drwy lwybro’r slip mewn lliw cyferbyniol ar gorff llestri pridd y potyn. Yn yr 17eg ganrif, cafodd llestri slip a fewnforiwyd o Ogledd Ewrop ddylanwad ar y cynlluniau a gynhyrchwyd ym Mhrydain. Roedd y rhain yn cynnwys motifau botanegol a söomorffig yn ogystal â phatrymau geometrig. Roedd patrymau haniaethol a ffurfiwyd drwy gribo drwy linellau cyfochrog o slip golau a thywyll i greu effaith marmor hefyd yn gyffredin, yn ogystal â phatrymau dellt a sbiral (a elwir yn ‘siglo’ [‘joggling’].
Roedd crochendai Bwcle yn ateb y galw yn y wlad hon yn ogystal ag allforio i Iwerddon ac America. Bu’r newyn yn Iwerddon yn ergyd drom i fasnach Bwcle yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ni chododd yn ôl ar ei thraed yn llwyr wedyn. Llwyddodd y diwydiant i oroesi tan yr ugeinfed ganrif drwy allgyfeirio a gwneud darnau addurnedig bychan tan i’r crochendy olaf gau ym Mwcle yn 1946.
Daeth y casgliad o lestri slip a gasglwyd gan Sidney Greenslade (1866-1955) a Dan Jones (1875-1934) rhwng 1925 a 1935 o amryw ffynonellau. Roedd Dan Jones, yr athro arlunio yn Aberystwyth, yn awyddus i gasglu gwaith crefftau cynnar o Gymru. Y gwerthwyr hen bethau a ddefnyddiwyd yn fwyaf aml oedd A. Goddard o Chwilog, Sir Gaernarfon, Claude White o Aberystwyth, a D. Williams o Gaerfyrddin. Daeth llestri slip arall o Abertawe, Lerpwl, y Trallwng, Amwythig, Caer, Machynlleth, Llangurig, Caerdydd a Ripley. Ar ben hyn, prynwyd 27 darn o gasgliad Richard Pritchard o Lanfachraeth, Ynys Môn, ym mis Ionawr 1932.