Oriel Cerameg | Ceramic Gallery
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre
Gorffennaf 21 July – Hydref 7 October 2018
Mae’r prosiect ‘Not Just for Pretty’ wedi rhoi imi gyfle i bwyso a mesur rhinweddau ymarferol ac addurniadol crochenwaith Michael Cardew. Drwy astudio’r potiau sydd yng Nghasgliad Ann Carr gallaf weld sut y gwnaeth Cardew ddatblygu ei waith. Mae dylanwadau pob cyfnod o’i yrfa yn cael eu dangos yn y casgliad hwn o waith sy’n cynnwys potiau a wnaed yn Abuja ac Wenford Bridge.
Fyddwn i byth wedi fy nisgrifio fy hun fel addurnwr cyn y prosiect hwn, ond erbyn hyn, wedi imi drosglwyddo motiffau addurniadol i’m harddull fy hun ac i’m potiau fy hun, rwy wedi dod o hyd i’m llais fy hun.
Erbyn hyn, addurno yw prif ddatganiad fy ngwaith, ac ymwybyddiaeth o swyddogaeth y darn yw fy mhrif ystyriaeth pan fyddaf yn creu.
Mae potiau Michael Cardew yn rhan o fywyd Robyn Cove ers erioed. Roedd ei mam yn perthyn o bell ac fe ddefnyddiai’r teulu ei jariau, ei gwpanau a’i fowlenni yn eu bywydau beunyddiol. Cafodd diddordeb Robyn mewn cerameg stiwdio ei annog gan ei hewyrth Simon Fox, casglwr cerameg sydd, yn garedig iawn, wedi benthyg rhai darnau i’r arddangosfa hon.
Roedd Ann Carr (1928-2013) yn gyfaill a chymdoges i Michael Cardew, ac yn edmygu ei waith. Yn 2014 rhoes ei mab, Julian Carr, fwy na 300 darn o’i chasgliad i Brifysgol Aberystwyth. Mae’r casgliad pwysig hwn i gyd wedi’i gysylltu â Chrochendy Wenford Bridge a sefydlwyd gan Michael Cardew yn 1939. Ar ôl ymweld â Chasgliad Ann Carr yn 2017, cafodd Robyn grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu corff newydd o waith wedi’i ysbrydoli gan y crochenwaith gan Michael Cardew sydd yng Nghasgliad Cerameg Prifysgol Aberystwyth.
Download a PDF of the exhibition catalogue here: Robyn Cove