Naming the Animals

Enwi Rheoliadau Anifeiliaid - Mae'r arddangosfa nodweddion yn gweithio gyda thema anifail o Gasgliad SeramegHydref 18, 2015 - 31 Ionawr, 2016

Daw teitl yr arddangosfa hon o gerfwaith seramig David Cleverley, Adda’n enwi’r anifeiliaid. Mae’r gwaith yn cyfeirio at ffigurau Swydd Stafford y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae wedi’i seilio ar thema Feiblaidd, rhywbeth sydd â thraddodiad hir mewn celf werin a diwylliant poblogaidd.

‘Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes’ Genesis 2:20

Mae anifeiliaid ac adar yn cael eu dehongli drwy gyfrwng clai ers yr oesoedd cynhanesyddol, filoedd lawer o flynyddoedd cyn y dechreuwyd gwneud llestri crochenwaith. Talismon neu degan, swynddelw lwcus neu addurn i’r silff ben tân, mae modelau o anifeiliaid i’w cael ym mhob diwylliant ac maent yn dal i fod yn destun grymus i lawer o artistiaid sy’n gweithio â serameg heddiw. Mae’r arddangosfa yn manteisio ar ddarnau o’r Casgliad Serameg o bedwar ban byd, ac mae’n dechrau gyda dau gerflun teracota gwarchodol, un o boptu’r drysau, a wnaed yn yr ?yl Serameg Ryngwladol yn 2007 gan y cerflunydd Indiaidd traddodiadol Palaniappan Muthukaruppan.

Gallai’r anifeiliaid hyn newid eu ffurf: gallai adar fod yn jygiau a thebotiau neu fod yn eu cuddio eu hunain ar ffurf balwnau seramig. Roedd jygiau hufen ar ffurf buwch yn eitemau poblogaidd a fasgynhyrchwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Anrhegion fydden nhw gan amlaf, a byddent yn cael eu dangos ar y ddresel yn y gegin. Mae Justin James yn chwarae â’r ffurf eiconig honno, gan roi gogwydd ffraeth ar y pot hufen â’i jwg sy’n gyfuniad o fuwch a charton llaeth.

Chwedlau sy’n ysbrydoli rhai o’r artistiaid yma. Straeon gwerin am g?n gwyllt a phentrefi a foddwyd sy’n ffynhonnell i waith Catrin Howell. Mae rhai eraill yn cyfuno ffurfiau dynol ac anifeiliaid i gynnig eu sylwadau ar y cyflwr dynol. Mae ffigurau Meri Wells wedi’u cloi ar wahân, a’r naill yn camddeall y llall am byth. Mae’r pen dynol â chlustiau cwningen gan Christie Brown yn cynnig sylwebaeth eironig ar draddodiad clasurol cerfluniaeth ac eto mae ganddo ryw adlais o wisg parti plu. Mae’r artist Wonderboy Nxumalo

Mae’r darluniadau hyn o anifeiliaid dof, gwyllt neu ddychmygol yn cyfleu negeseuon diwylliannol. Gallent fod yn chwareus neu’n ddryslyd, ond gallent hefyd fod yn gythryblus ac iddynt neges bwysig a dwys.