20 Chwefror – 5 Mehefin 2016
Crochenwaith sydd wedi torri a’i drwsio, a’r straeon a chysylltiadau, yw’r thema sy’n sail i’r arddangosfa hon. Mae’n ymgais i ystyried y berthynas sydd gennym â chyflwr potyn. Sut ydyn ni’n teimlo os yw wedi torri, wedi’i dolcio neu’n frwnt? A all y pethau hyn ddweud wrthym am fywyd y potyn, lle y bu a sut y cafodd ei ddefnyddio? Pa werth sydd iddo ac i bwy y mae’n golygu cymaint iddo gael ei drwsio neu ei adnewyddu? Mae’r arddangosfa hefyd yn dangos gwaith gan geramegwyr sy’n chwarae â’r syniadau hyn: Bouke de Vries, Paul Scott, Melanie Brown a David Cushway.
Man cychwyn yr arddangosfa yw’r rhodd a dderbyniwyd yn 2014 gan Michael Cardew a’i gydnabod, sef Casgliad Ann Carr o Grochenwaith o Wenford Bridge yng Nghernyw. Derbyniodd Aberystwyth nifer fawr o ddarnau – cyfanswm o 340 – llawer ohonynt wedi’u defnyddio’n rheolaidd i goginio ac i weini bwyd. Mae yma ddarnau sydd wedi cracio neu eu tolcio a nifer yn amlwg wedi eu trwsio. Dim ond ychydig filltiroedd o Wenford Bridge oedd Fellover Hall, sef cartref Ann Carr, ac roedd ganddi gyswllt clòs personol â’r crochenyddion a’r crochenwaith, a byddai weithiau hyd yn oed yn cynorthwyo gyda thaniadau hir yr odyn bren. Roedd ganddi gylch agos o gyfeillion yn yr ardal a rannai frwdfrydedd dwfn am grochenwaith.
Mae odynnau pren yn greaduriaid di-ddal a gallant greu darnau sy’n peri syndod rhyfeddol, siom dwfn a llawer o nwyddau ‘eilradd’ sydd wedi’u cracio, eu tolcio neu’n ddiffygiol mewn rhyw ffordd. Mae’n debyg y byddai Ann Carr yn aml yn rhoi cartref i’r eilyddion hyn yn ogystal â chael y dewis cyntaf wrth i’r odyn gael ei hagor – achlysur mawr bob amser.