Kate Haywood: The Language of Clay – Traces

Mae ffurfiau porslen coeth Kate Haywood yn hyderus ac yn gain yr un pryd. Wedi’u gwneud â sylw craff i fanylion, bydd pob ffurf yn fanwl gywir ac yn goeth.

Mae gan Kate awch am wrthrychau, weithiau’n wrthrychau i afael ynddynt, gwrthrychau o’r gorffennol yn aml. Bydd yn chwilio casgliadau amgueddfeydd ac yn ymchwilio archifau i nodi darnau chwilfrydig a dibenion. Mae gwaith diweddar Kate wedi’i ysbrydoli gan emau plant, gemau o adeg pan fyddid yn eu chwarae’n rhwyddach yn y stryd nag y byddent heddiw, efallai.

Bydd cyfuno ei cherfluniau serameg â defnyddiau eraill yn ychwanegu haenau o atgyfeiriadau ac apêl. Bydd pawb yn adnabod gwahanol olion yn ei chorff newydd o waith.

Cyfres o arddangosfeydd cenedlaethol teithiol yw Iaith Clai, wedi’u trefnu gan y Mission Gallery a’u hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Gwiriwch ddyddiadur Canolfan y Celfyddydau neu Newyddion Diweddaraf

i gael y newyddion diweddaraf am gyflwyniadau a digwyddiadau

Kate Haywood:

Iaith Clai – Olion

13/04/2019-09/06/2019

Hei Clai!
Gemwaith mewn Papur a Chlai: Tlysau, broetshis a bathodynnau.

Dydd Sadwrn 18 Mai
AM DDIM
Oriel Cerameg

(ysbrydoledig gan waith o arddangosfa Kate Haywood: Iaith Clai – Olion)
I deuluoedd gyda phlant 3 oed a throsodd. Does dim angen archebu lle dim ond galw heibio rhwng 10am a 1pm

Hae Hei Clai! yn ddathliad cenedlaethol o glai – yn cynnig cyfle i bawb i ryddhau eu crochenydd mewnol! Bydd canolfannau ledled y wlad yn cynnig gweithgareddau gyda chlai yn rhad ac am ddim dros y penwythnos 18 – 19 Mai 2019 fel rhan o’r ŵyl Rhowch Gynnig ar Greu.