Earth, Fire and Salt; pots by Micki Schloessingk

 

Gallery_001

Arddangosfa Iaith Clai: Rhan Un, Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Oriel Mission, curadwyd gan Ceri Jones.

04 Chwefror – 26 Mawrth

(Noder Canolfan y Celfyddydau ar gau ar 5 Chwefror)

Mae Micki Schloessingk yn creu potiau bendigedig i’w defnyddio a mwynhau bob dydd.yn Ne Cymru. Ers 1987, dyma lle mae Micki yn creu casgliad o botiau wedi’u taflu ac adeiladu â llaw. Gyda chiln mawr tanio pren, oriel a stiwdio, mae Crochendy Bridge yn le deinamig ac ysbrydoledig.

Mae potiau Micki yn brydferth ac wedi eu sylweddoli’n fedrus. Mae nifer o flynyddoedd o ofal a phrofiad wedi arwain at ddyluniad da’r darnau yma sydd yn bleser i’w defnyddio ac i fyw gyda. Mae llawer o waith Micki wedi ei daflu ar yr olwyn. Mwynha Micki hefyd adeiladu gyda llaw, fel ei dysglau slab gyda thraed. Mae’r holl waith wedi’u tanio gyda phren ag arlliw halen. Mae’r rhain yn brosesau cyffroes yn eu hun ac yn rhai sydd yn portreadu cymeriad unigryw potiau gwnaed â llaw Micki.

Cyfle i ni werthfawrogi a rhannu gwaith Micki gyda chynulleidfaoedd newydd yw Daear, Tân a Halen, fel teithia i leoliadau ar draws Cymru. Mae Daear, Tân a Halen yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau cyfrannu.

Mae Iaith Clai: Rhan Un yn cynnwys tri arddangosfa unigol o waith gan dri artist serameg benywaidd wedi eu selio yng Nghymru, oll â deinamig pwysig yn serameg gyfoes. Mae gwaith y tri artist yn delio â dynolrwydd.

MICKISTALK_pic