Oriel Cerameg
Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth
16/10/2021-08/01/2022
Arddangosfa yw fflwcs ac osgo o waith newydd sy’n deillio o’m prosiect Material Matters i, wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r corf o waith a arddangosir yn datgelu datblygiadau allweddol yn fy arfer i ers Gorffennaf 2019 pan oeddwn yn breswylydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, lle bûm yn fy ymdrwytho fy hun yn nhirwedd amrywiol Gogledd Cymru. Roedd y prosiect yn fy ngalluogi i wneud datblygiadau mewn ffurf ac arwyneb drwy gyflwyno anghymesuredd a gwthio fy nefnydd i o ddefnyddiau a dulliau gwydredd i lefelau newydd. Fe gyflwynwyd porslen fel defnydd ychwanegol i gyferbynnu â’r crochenwaith caled grog rwyf wedi’i ddefnyddio am y ddau ddegawd diwethaf. Yr ysbrydoliaeth o hyd i’m llestri cerfluniol sydd wedi’u gwneud â llaw yw ein rhyngberthynas â thymhorau a chylchoedd natur. Caf fy nennu at y llestri fel ffurf symbolaidd sy’n adleisio’r amgylchedd adeiledig ac i gyferbynnu gweadeddau sy’n ganlyniad i rymoedd egnïol o dwf a dadfeiliad sy’n rhyngweithio ac yn trawsnewid y synnwyr o drefn. Gan gofleidio cyferbyniadau o reolaeth a siawns o fewn y broses wydro, byddaf yn rendro’r arwyneb gweadog drwy haenau o slips a gwydreddau wedi’u brwsio ac sy’n adweithio o fewn prosesau tanio ocsidiedig. Bydd amrywio trwch yr haenau gwydredd a defnyddio defnyddiau anweddol dewisol yn dod ag amhariad arwyneb drwy bothellu, cawgio ac ymlusgo. Fe ailadroddir prosesau gwydro a thanio hyd nes y cyflawnir dyfnder optimal a chymhlethdod arwyneb.
Paul Wearing