Crossings: Adam Buick and the Legend of Tresaith.
30 Mehefin – 27 Awst 2017
Oriel Serameg, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Mae Adam Buick, crochenydd a gwneuthurwr ffilmiau, wedi datblygu’r prosiect arloesol hwn, yn seiliedig ar stori saith o dywysogesau Gwyddelig a anfonwyd dros y môr i lanio yn Nhresaith a phriodi dynion o Gymru. Mae Tresaith yn rhan o Arfordir Treftadaeth Ceredigion.
Gan fyfyrio ar y thema o groesi moroedd peryglus, bydd Adam yn gwneud saith o botiau lleuad a fydd yn cael eu lansio o’r Iwerddon er mwyn hwylio ar draws Môr Iwerddon a gobeithio glanio’n ddiogel yng Ngheredigion. Bydd eu taith yn cael ei chofnodi gan systemau llwybro ac yn cael ei nodi ar weddalen. Bydd Adam hefyd yn gwneud ffilm am y prosiect a chaiff y ffilm ei dangos ochr yn ochr â’r mapiau a’r potiau lleuad yn rhan o’r arddangosfa hon a gynhelir yn ystod yr ?yl Serameg Ryngwladol yr haf hwn. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys gwaith a gomisiynwyd gan Marged Pendrell, Meri Wells a Val James, sydd hefyd wedi ymateb i’r thema.
Bydd yr arddangosfa a’r ffilm ar gael i fynd ar daith o fis Tachwedd 2017. Bydd digwyddiadau a gweithgareddau arbennig yn ymwneud â’r prosiect hwn yn cael eu trefnu dros yr haf.
Trefnir y prosiect ar y cyd ag Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth a chaiff ei gefnogi gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
http://www.adambuick.com/place-of-seven/